Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch

  • Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
  • Llanuwchllyn
  • Y Bala
  • Gwynedd
  • LL23 7NA


Email Us

Ysgoldy

ysgoldy

Erbyn canol y 19G, gwelwyd yr angen i gael addoldy bychan i’r Annibynwyr yng nghanol y pentref, ac felly ychwanegwyd “at nifer Ysgoldai’r eglwys, trwy godi Ysgoldy yn y Llan – yn y Pandy, i fod yn fanwl – fel y gallai’r Hen Gapel drefnu moddion mewn man mwy canolog na Rhos Y Fedwen”.[1]

Arwyddwyd y weithred ar Fawrth 25, 1878, a rhoddwr y tir i’w godi oedd Thomas Davies, a chanlyniad ei adeiladu oedd ei fod yn “un o adeiladau prysuraf y pentref yn ystod y canmlynedd diwethaf”.[2] Er mai yn 1878 yr arwyddwyd y weithred, meddai’r weithred honno, “All that piece or parcel of land abutting on the parish highway leading from Llanuwchllyn to Pandy … and upon which said piece or parcel of land, a Schoolroom or Chapel hath been built at the expense of the members of the Congregational or Independent Church at Llanuwchllyn”.[3]  Gwelwn, felly, fod yr adeilad wedi ei godi cyn y dyddiad hwn. O’i adeiladu, gwelwyd yno sawl pregeth, Cyfarfod Gweddi, Corlan y Plant, y Gymdeithas Ddiwylliannol, heb son am lu o weithgareddau eraill y tu allan i fywyd y capel.

Fel y gwelwyd eisoes, daeth ansicrwydd i aelodau Glanaber yn nhroad y mileniwm wrth i’w hadeilad gael ei gondemnio, a rhaid cau'r capel. Er hynny, bu iddynt barhau yn Eglwys. Canlyniad hyn fu iddynt orfod uno ym mhob oedfa gyda’r ddau enwad arall, a oedd ar y pryd yn addoli gan amlaf yn y Neuadd Bentref oherwydd bod cyflwr yr Ysgoldy yn dirywio.

Gwelodd y Gweinidog ar y pryd, y Parchg. Dafydd Rees Roberts, ynghyd â rai o’r swyddogion gyfle yma i glosio pawb yn yr Ofalaeth. Y syniad oedd addasu’r Ysgoldy, oedd yn berchen i’r Annibynwyr, i fod yn gapel modern yng nghanol y pentref, gan ddefnyddio ychydig o adnoddau ariannol Glanaber, a chyfraniad gan Ainon at gostau’r prosiect.

Erbyn 2011, roedd y freuddwyd wedi ei gwireddu, ac er bod y Parchedig Dafydd Rees Roberts wedi gadael ers tair blynedd, gwahoddwyd ef i ail agoriad yr Ysgoldy i weld yr hyn a gyflawnwyd. Yno, roedd cyfle i bawb ddod at ei gilydd i adeilad cyfforddus, cynnes, gyda’r cyfarpar a’r dechnoleg ddiweddaraf, a hynny mewn adeilad oedd gan y tri enwad ymdeimlad o berchnogaeth arno. “Llawenydd o’r mwyaf oedd gweld ail-agor Yr Ysgoldy Bach ym mis Mehefin, yn gartref ysbrydol i’r tri enwad i gyd-addoli”.[1]


ysgoldy 2ysgoldy 3



[1] Roberts, Hedd Parri, Adroddiad Blynyddol Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a’r Cylch, tt1



[1] Jenkins, R. T., Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, (Roberts Evans a’i Fab, Y Bala, 1937), tt189

[2] Edwards, W. J., Taith drwy blwyf Llanuwchllyn, (Traethawd), tt.21

[3] Gweithred yr Ysgoldy