Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch

  • Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
  • Llanuwchllyn
  • Y Bala
  • Gwynedd
  • LL23 7NA


Email Us

Carmel

carmel

“Mewn llyfr cownt yn 1857, fe enwir ‘Carmel’”[1] , sef cangen arall o’r Hen Gapel sydd wedi ei leoli i fyny Cwm Penantlliw. Unwaith eto, nid hwn oedd y capel cyntaf, ond capel a adeiladwyd yn 1839. Fodd bynnag, ail adeiladwyd y capel, a gwelir yr adeilad hwnnw yn parhau i gael ei ddefnyddio hyd heddiw - adeiladwyd ef yn 1893.

Bu i Garmel wasanaethu cylch eang o ffermydd a thyddynnod, a gwelwyd Ysgol Sul, oedfa bregeth a Chyfarfod Bach llwyddiannus iawn yno ar hyd y blynyddoedd. Hefyd, gwelwyd ‘Corlan y Plant’, neu’r ‘Band of Hope’ yn cyfarfod yno yn gyson.

Unwaith eto, mae’r pethau hyn yn parhau yno ac eithrio Corlan y Plant.



[1] Jenkins, R. T., Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, (Roberts Evans a’i Fab, Y Bala, 1937), tt184