- Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
- Llanuwchllyn
- Y Bala
- Gwynedd
- LL23 7NA
Cynllwyd
Gwyddom mai yng Nghwm Cynllwyd yr arhosodd Hywel Harris ar ei ymweliad
â’r fro, er na phregethodd yno. Gwyddom hefyd mai yng Nghwm Cynllwyd, yn
Weirglodd Gilfach y cynhaliwydd y cyfarfod Ymneilltuol cyntaf, a ddatblygodd i
fod yn Eglwys Annibynol. Ond, fel y nodwyd yn hanes Glanaber, yn Ty’nfedw y
cynhaliwyd yr Ysgol Sul gyntaf, ac yng Ngwm Cynllwyd mae’r tyddyn hwnnw. Dyma
gartref yr Ysgol Sul yn y fro felly, ac yn ychwanegol i’r Ysgol Sul, mae
tystiolaeth bod Seiadau wedi eu cynnal yno. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn dweud
bod eglwys wedi ei sefydlu yn y cwm.
Mae’r
Parchedig Foulk Evans yn tystio i’r cyfarfodydd hyn wrth iddo, pan yn 22 oed,
fynd o gyfarfod gweddi a gynhaliwyd yn Dyfnant, Cwm Cynllwyd, i Nantybarcud,
sydd eto yn y cwm hwnnw, ac am ychydig, arhosodd i gael seibiant, ac yno wrth
gael seibiant “y cafodd nerth i hysbysu y cyfeillion oedd gydag ef fod arno
awydd cryf i gynyg pregethu Crist yn Geidwad i bechaduriaid”, a chanlyniad hyn
oedd iddo bregethu ychydig wedyn mewn seiat yn Nhy’nfedw.
Tua’r flwyddyn
1823, cafwyd prydles ar ddarn o dir am 99 mlynedd am y pris o 5/ -, ac
adeiladwyd y capel cyntaf i’r Methodistiaid ar y tir hwnnw. Dyddiad y weithred
oedd Medi 29, 1823.
Mae’n debyg
mai eglwys fechan o ran rhif fu hon erioed. Yn y flwyddyn 1868, 24 o aelodau
oedd yno; yn 1898, 38 o aelodau. Fodd bynnag, roedd y criw yn ffyddlon ac yn
weithgar dros yr achos. Byddai’r Parchedig Robert Williams, Wern Ddu yn
ffyddlon yn cynnal cyfarfodydd o bob math yno, ac wedi iddo ef fynd yn rhy hen,
byddai’r Parchedig T. Foulk Roberts, Machynlleth yn trafeilio yno i gynnal
cyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfod i’r bobl ifanc.
Ers y cychwyn, “Unwaith y pythefnos ceir pregethwr perthynol i’r
Methodistiaid yma ar y Sabboth, bob yn ail a phregethwr yr Annibynwyr. Ar un
Sabboth bydd trigolion yr holl ardal fynyddig hon yng nghapel y Methodistiaid
yn gwrando neu yn cymuno, ac ar y Sabboth dilynol bydd yr holl drigolion yr un
modd yng nghapel yr Annibynwyr yr ochor arall i’r ffordd fawr”.[1]
Ers hynny, mae’r Eglwys hon wedi parhau gyda’u tystiolaeth Gristnogol,
ac wedi rhannu Gweinidog gydag Eglwys Glanaber ar hyd y blynyddoedd.