Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch

  • Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
  • Llanuwchllyn
  • Y Bala
  • Gwynedd
  • LL23 7NA


Email Us

Rhosygwaliau

rhosygwaliau

Sefydlwyd Capel Rhosygwaliau fel cangen o Eglwys Llwyneinion. Gan y saif capel Llwyneinion un pen o gwm Hirnant (ac mae’r enw yn awgrymu fod y cwm yn un hir iawn), teimlwyd fod angen man cyfarfod i bobl i fyny’r cwm. Roeddynt eisoes wedi bod yn cynnal oedfaon yn Alltrugog pan na ellid mynd i Lwyneinion. Penderfynwyd ei adeiladu ger y clwstwr o dai a fodolai yn Rhosygwaliau yn hytrach nac mewn man gwledig er mwyn galluogi’r bobl oedd yn byw yn y pentref fynychu’r capel hefyd.

Roedd Ysgol Sul wedi bod yn cael ei chynnal yn Rhosygwaliau am flynyddoedd lawer, ac er ei bod yn gryf, prin oedd y rhai oedd wedyn yn cerdded i Lwyneinion i’r bregeth yn yr hwyr, ac eithrio rhai o’r bobl hŷn. Ond doedd eglwys Llwyneinion ddim am weld adeiladu capel arall yn y cwm rhag eu gwahanu fwyfwy.

Erbyn 1836, roedd y wladwriaeth wedi codi Eglwys wladol yn Rhosygwaliau, ac roedd ysgol wedi ei hagor yn y pentref. Ond, doedd y Methodistiaid ddim am weld eu hachos hwy yn y pentref, a’u hysgol Sul yn cael ei llyncu.

Er amharodrwydd capel Llwyneinion, yng nghyfarfod misol Cefnddwysarn, Mawrth 8, 1880, “hysbyswyd fod tir wedi ei sicrhau yn Rhosygwaliau i adeiladu ysgoldy arno”.[1]

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1887, roedd Rhosygwaliau wedi ei sefydlu yn Eglwys ar wahân i Lwyneinion. Canlyniad hyn oedd bod ystadegau Llwyneinion wedi syrthio yn fawr.[2]

Bu i’r Eglwys barhau yn weithgar drwy’r 20G. Am flynyddoedd, rhannwyd Gweinidog gydag eglwys Llandderfel.

Ers tua hanner canrif, bu’r ysgol Sul yn ymuno gydag Ysgol Sul capel Tegid (P), Y Bala. Er hynny, bu’r teuluoedd ifanc yn weithgar yn yr Eglwys yn Rhosygwaliau.

Ers rhai blynyddoedd, mae aelodau Rhosygwaliau yn addoli yn Neuadd Llangower oherwydd bod cyflwr yr adeilad wedi dirywio.



[1] Williams, W , Hanes Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, (1902), tt228

[2] Yn 1885, y ffigyrau oedd: Llwyneinion – Aelodau: 76, gwrandawyr: 161. Erbyn 1887, roedd Rhosygwaliau yn Eglwys, a dyma’r ystadegau: Llwyneinion – Aelodau: 48, gwrandawyr: 70.  Rhosygwaliau – Aelodau: 42, gwrandawyr: 110