- Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
- Llanuwchllyn
- Y Bala
- Gwynedd
- LL23 7NA
Ainon
Yng Nghymanfa Penycae yn y flwyddyn 1834, mae’n debyg “Fod y gymanfa
wedi caniatáu £50 tuag at adeiladu capel yn Llanuwchllyn, Sir Feirionydd”[1], ac fel
ymatebiad i’r derbyniad ariannol yma, codwyd capel Ainon yn 1840 ar dir Syr
Watkin Wynn, a hynny ar brydles. Y pryd hwn, gwŷr megis R. Roberts,
Dolmelynllyn oedd ynghlwm â’r capel.
Erbyn 1847,
galwyd Gweinidog i wasanaethu’r Eglwys, a sefydlwyd Edward Hymphreys, oedd yn
dod o’r fro, yn Weinidog yno. Nid arhosodd yno’n hir gan iddo ymfudo i’r Unol
Daleithiau.
Penderfynwyd
yn y flwyddyn 1858 i wneud gwaith ar yr adeilad er mwyn ei adnewyddu, a hynny
dan gais ac arolygiaeth Cymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion. Yn dilyn y
gwaith hwn, aethpwyd ati unwaith yn rhagor i geisio Gweinidog, a galwyd a
sefydlwyd y Parchedig J Jones yn weinidog ar yr Eglwys.
Yr un pryd, roedd capel y Wesleaid yn nhref y Bala wedi dwyn eu hachos
i ben, a phenderfynodd y Bedyddwyr brynu eu hadeilad a chychwyn cangen yno
hefyd.
O dan weinidogaeth J. Jones, gwelwyd cynnydd mawr yng ngwrandawyr y
Bedyddwyr, a nifer yn cael eu bedyddio. Yr un oedd yr hanes yn nhref y Bala
hefyd.
Gyda’r cynnydd amlwg yn Llanuwchllyn dan weinidogaeth ‘Jones
Llanuwchllyn’ fel y’i gelwid, “anturiwyd cynnal Cymanfa Dinbych, Fflint a
Meirion yn Llanuwchllyn”[2], a hynny yn
y flwyddyn 1859. Pregethwyd gan ddeg o bregethwyr yn y Gymanfa, ac mae’n debyg
fod “hon yn gymanfa nodedig o dda”.[3]
Symudodd y Parchedig J Jones i Brymbo yn 1863 gan adael yr Eglwys yn
ddi-fugail unwaith eto. Ond, bu i lawer o weinidogion yn eu tro wasanaethu’r
Eglwys yn dilyn hynny.
Penderfynwyd
atgyweirio Salim (B) y Bala yn 1883-84, a’r teimlad oedd bod angen hefyd
atgyweirio Ainon gan ei fod “wedi myned yn hen ac adfeiledig, ac yn beryglus
braidd myned iddo”.[4] Gyda chefnogaeth ariannol un
o had yr Eglwys, y Parchedig D. Williams, Llangollen, a chefnogaeth Eglwysi
cyfagos, atgyweiriwyd yr Eglwys ar gost o £50. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol
yn dilyn atgyweirio ar Ionawr 18 ac 19, 1887.
Er bod bri a chynnydd wedi bod yn ystod y cyfnod cychwynnol, dylid
sylwi fod y niferoedd wedi parhau yn eithaf isel o gymharu gyda nifer aelodau a
gwrandawyr yr enwadau Ymneilltuol eraill yn y fro. Un rheswm am hyn yw oherwydd
“fod yr ieuenctyd a fegir yma yn gorfod, lawer o honynt, symud i fannau eraill
yn ymdrech bywyd, gan nad yw gwlad amaethyddol yn alluog i’w cynnal oll”.[5]
Erbyn 1889, roedd gan yr Eglwys Weinidog unwaith eto, sef y Parchedig
H Evans. Fodd bynnag, sylwn unwaith eto mai yn y Bala yr Ordeiniwyd ef gan fod
y gynulleidfa yno llawer cryfach na’r gynulleidfa yn Llanuwchllyn. Roedd “y
ferch erbyn hyn wedi dod yn gryfach na’r fam”.[6]
Yn dilyn hyn, ni fu i lawer o weithgarwch mawr ddigwydd yn Ainon.
Parhawyd gyda’r dystiolaeth Gristnogol yn y lle, a pharhaodd y criw ffyddlon i
addoli yno’n gyson. Tystia’r Parchedig W. J. Edwards, “Ni fu nifer yr aelodau
yn uchel gydol y blynyddoedd. Dim ond chwech sydd yno erbyn hyn ond y mae’r
chwech yno bob prynhawn Sul pan ddaw’r pregethwr o’r Bala yno i Wasanaethu”.[7]
Yn dilyn cau Salim, gwelwyd ychydig o’r aelodau yn dod ac ymuno gydag
aelodau Ainon. Erbyn cychwyn yr 21G, roedd 8 o aelodau yno.