Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch

  • Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
  • Llanuwchllyn
  • Y Bala
  • Gwynedd
  • LL23 7NA


Email Us

Ganaber

carreg glanaber

Eglwys Bresbyteraidd y fro yw Glanaber, ac mae’n ymddangos yn debyg mai yn Llanuwchllyn y pregethwyd y bregeth gyntaf gan Fethodist yn Sir Feirionydd, sef Howel Harris. Ond, wedi dweud hyn, yn wahanol i hanes yr Annibynwyr, ni sefydlwyd achos Methodistaidd yn y fro am rai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Tua 1740, cafodd y Parchedig Daniel Rowland ganiatâd Offeiriad y Plwy i bregethu yn yr Eglwys, ond rhwystrwyd ef yn y diwedd gan Offeiriad Llangower. Ond, dychwelodd yn ôl ychydig yn ddiweddarach gan sefyll ar garreg farch y Felindre, a phregethodd ar y geiriau “Wele ef yn dyfod yn neidio ar y mynyddoedd ac yn llamu ar y bryniau”.

Bu’r bregeth hon yn gychwyn cyfres o bregethau yn y plwyf gan rai o fawrion y Methodistiaid gan fod Llanuwchllyn yn sefyll ar y ffordd rhwng Machynlleth a’r Bala - p’run bynnag ffordd y teithiech i’r Bala.

Yn y cyfnod hwn hefyd, byddai Methodistiaid Llanuwchllyn yn teithio i’r Bala i addoli, er, “pa nifer a ddeuai o Lanuwchllyn i’r Bala yn ystod y blynyddoedd hyn i fwynhau'r breintiau a geid gyda’r Methodistiaid yn y dref, nid oes hysbysrwydd”.[1]  Ond, gyda dyfodiad a gweithgarwch Thomas Charles ar i fyny, yn 1791, gwelwyd cymdeithas eglwysig Fethodistiaeth yn cael ei sefydlu yn Llanuwchllyn. Credir mai ar dyddyn o’r enw Gwndwn yng nghwm Cynllwyd y cynhaliwyd y Seiat gyntaf honno, a phump o aelodau yno. Yn ystod y cyfnod cynnar hwnnw hefyd yr ymsefydlwyd Ysgol Sul ganddynt, ac fe’i cynhelid yn Ty’nyfedw gan Mary Lewis.

Bu’r eglwys yn symud o le i le am gyfnod o rai blynyddoedd cyn iddynt adeiladu eu capel cyntaf yn 1804. Er, yn ôl Edward Edwards yn ‘Methodistiaeth Cymru’, yn 1805 yr adeiladwyd y capel. Er hynny, ni ellir anwybyddu’r ffaith y bu adeiladu capel yn gaffaeliad mawr i ddatblygiad yr Ysgol Sul oherwydd nodir mai “un o’r canlyniadau pwysicaf o gael capel fu cael Ysgol Sabbothol lewyrchus cyn hir”.[2]  Y rheswm y gwneir sylw penodol o hyn yw oherwydd, er bod Llanuwchllyn yn agos i’r Bala, a bod Ysgol Sul wedi bodoli yno am gyfnod cynt, araf iawn oedd y tyfiant hyd yma.

Nid gwaith hawdd oedd sefydlu Methodistiaeth yn y fro, na’r Ysgol Sul, a hynny oherwydd llawer o wrthwynebiad i’r symudiad. Mae tystiolaeth, er enghraifft, i’r Parchedig J. R. Jones, Ramoth, fod yn wrthwynebus i’r symudiad. Nid oedd gan George Lewis, Gweinidog yr Hen Gapel Ysgol Sul chwaith, er gwaethaf ei gyfraniad yn sefydlu Ysgolion, ac mae’n ddiddorol nodi mai “trwy lawer o wrthwynebiad y llwyddodd ei olynydd, Mr. Michael Jones, i sefydlu un”.[3]  Fodd bynnag, penderfynwyd yn 1807 i gynnal yr Ysgol Sul gyntaf yn Llanuwchllyn, a honno yn y Capel Methodistaidd .[4]

Gyda ffyniant yr Eglwys, fel eglwysi Methodistaidd y fro ehangach, penderfynwyd rhwng 1805 a 1815 i greu cylchdaith, neu daith Sabothol. Yng Nghofiant D. Rolant, gwelir iddo nodi ei fod wedi pregethu yn Pentrepiod a Llangower ar nos Sadwrn, ac yna yn y Glyn bore Sul, Llanuwchllyn yn y prynhawn, ac yn y Parc yn y nos.  Gwelwn felly ddatblygiad y gylchdaith.

Erbyn 1838, roedd yr Eglwys wedi penderfynu rhoi galwad i Weinidog, sef Robert William, Wern Ddu. Yn y cyfnod hwn, fel y gwelwyd eisoes, roedd ffrwgwd yn mynd ymlaen yn yr Hen Gapel rhwng Michael Jones a’i aelodau, a chanlyniad hynny fu i rai o’r aelodau ymuno gyda’r Methodistiaid. Yn wir, gellir dadlau y bu hyn “yn achlysur hwyrach i’r ddau enwad ddyfod o hynny allan yn fwy cyfartal”.[5] Un o’r rhai a ddaeth at y Methodistiaid oedd Roberts Williams. Yn ddiweddarach, cafod ganiatâd y Cyfarfod Misol i ddechrau pregethu gyda’r Methodistiaid yn Llanuwchllyn, ac “roedd yn bregethwr defnyddiol, a chymeradwy”.[6]

Erbyn 1872, roedd yna ymdeimlad ymysg yr aelodau eu bod angen capel newydd. Roeddynt eisoes wedi helaethu ychydig ar y capel cyntaf yn 1830, ond bellach, capel newydd oedd ar eu bryd. Penderfynwyd symud y capel i sefyll rhwng Plasdeon a’r bont. Bu’r aelodau yn hael iawn wrth gyfrannu tuag at y capel newydd, a “gallwyd agor y capel yn ddiddyled yn 1873, ac ni fuwyd yn hir heb dalu am y tŷ hefyd”.[7]  Wrth gyfeirio at y tŷ, yr oedd Glanaber wedi adeiladu tŷ i’r Gweinidog – un o’r llefydd cyntaf i wneud hynny yn Sir Feirionnydd.


glanaber

Y Capel newydd

Y Gweinidog cyntaf a fwriedid i fyw yn y tŷ oedd y Parchedig D. Rees, ond bu farw cyn dod yno i fyw. Felly, dewiswyd y Parchedig William Thomas o Lanrwst i ddod yn Weinidog arni, a daeth yno yn 1875. Yn dilyn ei ymadawiad yn 1879, galwyd J. G. Davies i’w olynu, a bu yntau yno o 1880 hyd at 1887. Wedi ei ymadawiad, bu’r eglwys yn ffodus i allu galw H. O. Hughes yn Weinidog ar yr Eglwys, ac i’w ganlyn ef yn 1897, cafwyd gweinidog ifanc o Ffestiniog, sef Owen Ellis a fu yn y fro o 1897 hyd 1926.

Wrth drafod ei hatgofion gyda Miss Madge Roberts mewn sgwrs, nododd fod ganddi brin gof o Mr. Ellis yn Weinidog ar yr Eglwys, ac o’r gweithgarwch oedd yng Nglanaber o dan ei Weinidogaeth. Byddai’r Cyfarfod Gweddi yno ar nos Lun, y Seiat ar nos Fercher, y Gymdeithas ar nos Iau, a’r pregethau ar Y Sul. Byddai’r ‘Band of Hope’ hefyd yn cyfarfod yno. Nododd hefyd fel y byddai’r capel yn llawn yn aml iawn mewn pregeth, a byddai Mr. Ellis yn mynd i weld unrhyw aelod na fyddai yn yr oedfa ar y Sul i sicrhau eu bod yn iawn, a phe na fyddai ef yn pregethu yno ar y Sul, byddai ei wraig, Mrs. Ellis, yn gadael iddo wybod pwy oedd yn absennol.

Fel gyda’r Hen Gapel, byddai plant Glanllyn yn mynychu oedfaon yng Nglanaber hefyd.

Am flynyddoedd helaeth yr 20G gwelwyd sawl Gweinidog dylanwadol arall yn llafurio yng Nglanaber, a thystir bod Llanuwchllyn yn nechrau’r 20G yn “faes hyfryd i lafurio ynddo”.[8]  Gwelwyd brwdfrydedd ymysg gwaith plant a phobol ifanc yn yr Eglwys, gydag Ysgol Sul weithgar.

 

Cangen Dolhendre

Fel yn achos yr Annibynwyr, roedd teithio i’r fam eglwys yn golygu cryn bellter i’r rhai oedd yn y cymoedd, ac felly fe sefydlwyd cangen o Glanaber yng Nghwm Penantlliw, sef capel Dolhendre, a hynny yn 1840 neu 1841. Byddai teuluoedd megis teulu Bryngwyn, Blaenlliw a Dolhendre yn teithio yno ar y Sul ar gyfer Ysgol Sul a Phregeth, a byddent yn weithgar eu gweithgarwch yno.

Un ffaith ddiddorol a nodir gan W. Williams am y canghenau hyn yw’r ffaith ganlynol:

Yr ydym yn deall mai'r fam eglwys gyda’r Annibynwyr sydd yn dewis blaenoriaid i’r canghenau - blaenoriaid y fam eglwys yw blaenoriaid y canghenau gyda hwynt. Yn hyn o beth y mae Methodistiaid Llanuwchllyn yn fwy gwerinol, ac yn caniatáu i’r canghenau ddewis eu blaenoriaid eu hunain. Bydd y canghenau o’r tu arall ar bob achlysur o bwys, megis adeiladu capel newydd, fel yn anghofio mai canghenau ydynt, ac yn cyd-weithio a’r fam eglwys i sicrhau teml deilwng o’r Cyfundeb yn y plwyf.[9]

Bu i Garmel a Dolhendre gydweithio yn agos ar hyd y blynyddoedd, a byddai’r pregethwyr a ddeuai yno o Sul i Sul yn amrywio o ran enwad. Fodd bynnag, ni fu’r aelodaeth llawer fwy na 30 erioed, ond yng nghanol y ganrif ddiwethaf, bu i gapel Dolhendre gau oherwydd bod y niferoedd wedi syrthio yn isel.



[1]Williams, W , Hanes Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, (1902), tt129

[2] Williams, W , Hanes Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, (1902), tt132

[3] Williams, W , Hanes Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, (1902), tt133

[4] Dylid nodi wrth basio na fu i neb dalu cymaint o deyrnged a diolchgarwch i’r Ysgol Sul hon na Syr O. M. Edwards, a gellir gweld tystiolaeth o hyn, ynghyd â’i hanesion am y modd y dysgwyd yr A B C i’r plant yn Ysgol Sul Glanaber yn ei Gofiant: Gruffydd, W.J., Owen Morgan Edwards; Cofiant, (Ab Owen, Aberystwyth, 1938), tt38-43

[5] Williams, W , Hanes Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, (1902), tt138

[6] Williams, W , Hanes Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, (1902), tt144

[7] Williams, W , Hanes Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, (1902), tt147

[8] Williams, W , Hanes Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, (1902), tt148

[9] Williams, W , Hanes Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, (1902), tt151