Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch

  • Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
  • Llanuwchllyn
  • Y Bala
  • Gwynedd
  • LL23 7NA


Email Us

Hen Gapel

hen gapel

Eglwys Annibynnol Llanuwchllyn yw’r Hen Gapel, a dyma Fam Eglwys yr Annibynwyr ym Meirionnydd. Gellir olrhain ei hanes yn ôl i hanner cyntaf y 18G wedi i ŵr o’r enw Meurig Dafydd o Weirglawdd-y-gilfach, Llanuwchllyn glywed Mr. Lewis Rees yn pregethu yn nhref y Bala yn 1737. Yn dilyn gwrando ar eiriau’r gŵr hwn, a chael ei gyffwrdd ganddynt, gwahoddodd Lewis Rees i’w gartref i bregethu, ac felly y bu. Gwahoddodd ei gymdogion ynghyd yno i wrando arno, a chafodd Lewis Rees fraw o weld pawb, “gwryw a benyw, a’i hosan yn ei law, ac yn brysur yn gwau, yn ôl arfer y wlad”.[1] Wedi iddo gychwyn pregethu, sylwodd nad oedd yr un ohonynt yn peidio â gwau. Fodd bynnag:

Penderfynnodd droi at Dduw mewn gweddi, a’r olwg ddiwethaf a gafodd cyn cau ei lygaid oedd, pob un yn ddiwyd yn gwau ei hosan. Ond wedi dechrau gweddïo, cafodd nerth gyda Duw, fel yr anghofiodd hwy yn fuan. Deallodd wrth yr ocheneidiau a glywai fod Duw yn wir yn y lle, a phan agorodd ei lygaid ar ddiwedd y weddi, gwelai bob hosan a gweill wedi syrthio i’r llawr fel ‘taenfa rhwydau,’ a phob gwyneb wedi ei wlychu gan ddagrau.[2]

Mae’n debyg mai dyma’r cofnod cyntaf o oedfa ymneilltuol yn Llanuwchllyn.

Parhaodd y gynulleidfa i gyfarfod yn y fan honno, a byddai Lewis Rees yn dod yno yn rheolaidd i bregethu. Yn ddiweddarach, am y ddwy flynedd olaf cyn adeiladu’r capel cyntaf, dechreuwyd cynnal yr oedfa bob yn ail rhwng Weirglawdd-y-gilfach a Nantydeiliau ble yr oedd Dafydd Stephen yn byw. Oddeutu 1740, mae cofnod i Hywel Harris bregethu yno, er iddo gael ei wrthod yn chwyrn yn y Bala.

weirglodd gilfach

Weirglodd Gilfach

Trobwynt arall i’r Ymneilltuwyr oedd dod ag Ysgol y Dr. Williams i Lanuwchllyn yn 1740. Teimlai Edward Kenrick nad oedd “wedi cael ond ychydig iawn o gefnogaeth i’m llafur yn y Bala, lle’r wyf wedi pregethu ers dros ugain mlynedd, yr wyf wedi symud y cydgynulliad … i le arall, tua phum milltir oddi yno; ac y mae yr Ymneilltuwyr yn y Bala ac o’i chwmpas yn cyrchu i’r lle hwnnw”.[3]  Yr oedd sawl rheswm dros y symud hwn; un ohonynt am fod Weirglodd Gilfach bellach wedi’i gofrestru fel tŷ cwrdd, ond y prif reswm oedd oherwydd bod Lewis Rees wedi cytuno i ymweld â’r gynulleidfa yn Llanuwchllyn pob tri mis, a chredid, felly, mai yn Llanuwchllyn oedd y gynulleidfa fwyaf craff yn y cyfnod. Symudwyd yr Ysgol, felly, yn gyfangwbwl o’r Bala i Lanuwchllyn. Nodir y manylion yn fanwl gan R. T. Jenkins yn ei gyfrol ar hanes yr Hen Gapel:

Nid ‘agor achos newydd’ yn Llanuwchllyn, a’r ‘hen achos’ yn parhau yn y Bala. Nage: symud yr achos, yn ei grynswth, o’r nail le i’r llall … Na feddylier, wrth gwrs, fod cyfarfodydd o Annibynwyr yn y Bala wedi peidio. Ond i Lanuwchllyn yr oedd rhaid mynd i gael y Cymun; ac fel rheol yno yn unig (yn y dyddiau hynny) y ceid pregethu Ymneilltuol. Unwaith eto: Cynulleidfa Annibynol Llanuwchllyn ydyw olynydd uniongyrchol, etifeddes, ‘Cynulleidfa Sir Feirionydd’.[4]

Penderfynnodd yr Eglwys y byddai arweiniad bugail o fudd iddynt, ac aethpwyd ati i roi galwad i Thomas Evans i fod yn Weinidog arnynt. Er mai o’r De y deuai, bu iddo ymsefydlu yn yr ardal wedi iddo briodi a chwaer Mr. Owen, Talardd, ac ymddengys i Mr. Evans gadw ysgol yn Nhalardd yn y cyfnod hwnnw. Er na wyddom i sicrwydd pryd y daeth yn Weinidog ar y gynulleidfa, gwyddom ei fod yn Weinidog erbyn 1744.

Roedd y gynulleidfa erbyn canol y 18G wedi penderfynu bod angen capel arnynt, ac yn 1745, gwelir y weithred yn nodi eu bod wedi adeiladu capel ar dir Nantydeiliau. Gellir gweld  y tŷ capel gwreiddiol yn dal i sefyll drws nesaf i’r capel presennol. Ynglŷn ag enw’r capel, gwelwn ar glawr Rhestr 1847 yr enw ‘Ebenezer’. Fodd bynnag, yr enw a roddwyd arno ar y dogfennau a anfonwyd i Somerset House yn 1837 yw “Rhos y Fedwen or Old Chapel”.[5]

hen gapel gwreiddiol

Y Capel Cyntaf

Roedd cyfnod Mr. Evans fel Gweinidog wedi bod yn gyfnod llewyrchus gyda’r gynulleidfa yn sefydlu’r Eglwys Annibynol gyntaf ym Meirionnydd, ac roedd ffrwyth ei lafur yn y fro am gyfnod o bymtheg mlynedd yn amlwg iawn. Fodd bynnag, symudodd i gyffiniau Dinbych yn 1758.

Daeth Benjamin Evans ar daith bregethu i’r Gogledd oddeutu 1767, a bu iddo ymweld â’r Eglwys yn Llanuwchllyn. Wedi i’r gynulleidfa wrando arno, penderfynasant ei alw i weinidogaethu arnynt, a derbyn y gwahoddiad fu ei hanes, ac urddwyd ef yn Weinidog yno yn 1769. Bu ei gyfnod ef hefyd yn hynod lewyrchus, ac adroddodd Josiah Thompson, gŵr o’r fro, fod “cynulleidfa Llanuwchllyn, neu'r rhai y pregethai Mr. Evans iddynt mewn gwahanol fannau yn 1773, yn rhifo 600 o eneidiau”.[6]  Ond, er mawr siom i bawb, gadael fu ei hanes yn 1777.

Yn dilyn hynny, cafwyd gweinidogaeth fer Thomas Davies, ond ni fu yma’n hir gan iddo farw yn ifanc iawn.

Ychydig yn ddiweddarach, oddeutu 1785, roedd Abraham Tibbot wedi dod yn weinidog ar yr Eglwys: “dyn o gorph cryf, ac yn bregethwr poblogaidd”.[7]  Ond, rhaid nodi fod ei gyfnod wedi bod yn gyfnod amrywiol iawn oherwydd bu iddo brofi yn amhoblogaidd gyda rhai o’r aelodau wedi iddo fynd i Lundain i gasglu arian tuag at yr achos, a dychwelyd hefo fawr ddim o arian. Fodd bynnag, “roedd yn ddyn a gerid yn fawr gan bawb, a chyfrifai'r rhai a’i hadwaenai ef oreu, yn gristion trwyadl”.[8]

I’w ddilyn ef, daeth Dr. George Lewis, Caernarfon. Gŵr ydoedd a “ystyriai … fod cael eglwys ddeallgar ym mhethau yr efengyl, ac o fywyd sanctaidd, o fwy pwys na chael eglwys luosog arwynebol”[9], ac efallai mai canlyniad hyn oedd bod diwygiad wedi torri allan yno yn 1808. Roedd y gŵr hwn hefyd yn adnabyddus fel esboniwr Beiblaidd. Bu iddo ysgrifennu sawl esboniad ar rannau o’r Testament Newydd, ond ei gampwaith oedd pan ysgrifennodd y ‘Systematic-Theology’ gyntaf yn y Gymraeg[10] a ystyrir yn gampwaith.[11]

Bu’r eglwys yn ddi-weinidog am gyfnod wedi ymadawiad George Lewis, ond yn 1814, rhoddwyd galwad i Michael Jones, a chafodd ei sefydlu yn Weinidog ar yr Eglwys ar 10 Hydref 1814. Bu iddo ymroi yn egniol i’r gwaith yn Llanuwchllyn, er bod sawl achos anffodus wedi codi yn ystod ei gyfnod. Daeth Michael Jones yn Weinidog ar yr Hen Gapel yn syth o’r coleg, gyda syniadau gwahanol iawn i’w ragflaenydd Mr Lewis. “Cyfundrefnwr oedd y Doctor Lewis, beirniad oedd Michael Jones, Pensaer diwinyddol oedd y Doctor, chwalwr oedd Michael”.[12]  Rhwygodd y gynulleidfa yn y cyfnod hwn, gyda dwy ran o dair yn ei erbyn. Fodd bynnag, bu iddo barhau gyda’i waith, a gwelwyd ei ymdrechion i sefydlu a datblygu Ysgol Sul yn llwyddiannus, a hynny yn Nhŷ Mawr oddeutu 1819. Ond, datblygodd y rhwyg, gydag un garfan o blaid system Mr Lewis, a charfan arall o blaid system Michael Jones - dyma gychwyn ‘Brwydr y Systemau’. Bu i’r ddadl hon arwain at achos swyddogol, a bu i’r swyddogion oedd yn erbyn trefn Michael Jones fynd mor bell â “rhoi bolltau a chlo newydd ar y capel, a gosod tri o wylwyr arno”.[13]  Eto, parhau i bregethu a wnaeth Michael Jones yn Weirglodd Wen. Yn y cyfamser, cododd y rhai oedd yn erbyn Michael Jones ŵr o’r enw Owen Jones i ofalu amdanynt. Ond, sylweddolwyd fod Michael Jones yn cael cynnydd rhagorach na Owen Jones, a diwedd y gân fu i’r ddwy gynulleidfa ail uno. “Ar Hydref 29-30, cynhaliwyd Cymanfa a chyfarfod pregethu yn yr Hen Gapel i ddathlu’r ailuno”.[14]

Y Gweinidog a ddaeth ar ôl Michael Jones oedd Thomas Roberts, neu Scorpion fel y gelwid. Erbyn ei gyfnod ef, roedd defnydd o’r enw Ebeneser wedi diflannu, a’r Hen Gapel oedd yr enw a ddefnyddiwyd gan bawb. Roedd hwn yn bregethwr poblogaidd, gyda phregethau hwyliog iawn, yn enwedig yng ngwasanaethau’r hwyr.

Erbyn 1858, daeth Rhys Mynwy Thomas yn Weinidog, a bu iddo sylwi ar gyflwr truenus y capel. Roedd y capel “wedi mynd i edrych yn bur anolygus – yn wir, fe siomwyd yr Americanwr [Morris Roberts, Remsen] pan welodd yr hen deml yr oedd wedi clywed cymaint o sôn amdani gan bobl Llanuwchllyn dros y môr, nes disgwyl gweld adeilad nobl dros ben”.[15]  Canlyniad hyn fu chwalu’r capel yn 1871, gan gadw’r tŷ capel heb ei gyffwrdd, ac eithrio cau’r drws rhwng y tŷ a’r capel, a chodi capel newydd. Cafwyd cyfarfodydd i’w agor yn swyddogol ar Dachwedd 23, 1871 gyda phedwar yn pregethu yno.

Yn dilyn y cyfnod hwn, daeth nifer o weinidogion eraill a fu’n hynod o ddylanwadol nad oes lle i gyfeirio atynt i gyd yn y fan yma. Fodd bynnag, yn y braslun hwn o hanes yr Hen Gapel, gwelwyd y cynnwrf a fu ynghlwm â’r Capel ers ei sefydlu. Bu’r adeilad newydd hardd yn fan cyfarfod i’r Annibynwyr, gyda’r adeilad yn llawn ar gyfer sawl pregeth cyn belled â chanol y 1970au pryd y byddai plant yng ngwersyll preswyl Glanllyn yn mynychu’r oedfaon.

Yn y cyfnod hwn hefyd, gwelwyd Pregethwyr mawr eu hoes yn dod i bregethu i’r Hen Gapel, ac yn eu mysg enwau megis J. C. Jones, Emlyn Jenkins, T. Glyn Thomas a John Watkin.

 

Roedd yr Hen Gapel yn gyrchfan i’r Annibynwyr pob Sul ar gyfer oedfa bregeth. Fodd bynnag, gan fod llawer o’r aelodau yn byw ar dyddynnod a ffermydd cryn bellter yng nghymoedd y cylch, gwelwyd yr Annibynwyr yn codi canghennau - tair o’r pedair cangen yn parhau i fodoli heddiw.



[1] Rees, T.  a  Thomas, J., Hanes Eglwysi Annibynol Cymry: Cyfrol 1  (Swyddfa y ‘Tyst Cymreig’, Lerpwl, 1871), tt. 412

[2] Rees, T.  a  Thomas, J., Hanes Eglwysi Annibynol Cymry: Cyfrol 1  (Swyddfa y ‘Tyst Cymreig’, Lerpwl, 1871), tt. 413

[3] Jenkins, R. T., Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, (Roberts Evans a’i Fab, Y Bala, 1937), tt63-64

[4] Jenkins, R. T., Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, (Roberts Evans a’i Fab, Y Bala, 1937), tt65

[5] Jenkins, R. T., Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, (Roberts Evans a’i Fab, Y Bala, 1937), tt73 

[6] Rees, T.  a  Thomas, J., Hanes Eglwysi Annibynol Cymry: Cyfrol 1  (Swyddfa y ‘Tyst Cymreig’, Lerpwl, 1871), tt.414

[7] Rees, T.  a  Thomas, J., Hanes Eglwysi Annibynol Cymry: Cyfrol 1  (Swyddfa y ‘Tyst Cymreig’, Lerpwl, 1871), tt.414

[8] Rees, T.  a  Thomas, J., Hanes Eglwysi Annibynol Cymry: Cyfrol 1  (Swyddfa y ‘Tyst Cymreig’, Lerpwl, 1871), tt.414

[9] Rees, T.  a  Thomas, J., Hanes Eglwysi Annibynol Cymry: Cyfrol 1  (Swyddfa y ‘Tyst Cymreig’, Lerpwl, 1871), tt.415

[10] Williams, Edward,  Y Drych Ysgrythyrol, (Jenes & Crane, Caerlleon, 1797)

[11] Bu i George Lewis gynorthwyo Dr Edward Williams, Pennaeth yr Academi yng Nghroesoswallt a Rotherham. Yn ddiddorol iawn, gwelir bod rhwyg wedi bod yn yr Hen Gapel yn ystod cyfnod Michael Jones oherwydd iddo ddilyn ‘Y System Newydd’ – system a wrthodwyd gan yr hen bobl, a chan rai megis George Lewis, a’r hyn sy’n ddiddorol yw mai Dr Edward Williams oedd tad y ‘System Newydd’.

[12] Jenkins, R. T., Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, (Roberts Evans a’i Fab, Y Bala, 1937), tt133

[13] Jenkins, R. T., Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, (Roberts Evans a’i Fab, Y Bala, 1937), tt151

[14] Jenkins, R. T., Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, (Roberts Evans a’i Fab, Y Bala, 1937), tt161

[15] Jenkins, R. T., Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, (Roberts Evans a’i Fab, Y Bala, 1937), tt187-188