- Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
- Llanuwchllyn
- Y Bala
- Gwynedd
- LL23 7NA
Peniel
Gellir credu
fod Peniel wedi agor yn 1828 ochor arall i’r ffordd o ble y saif yr adeilad
presennol, a gwelwyd adfeilion yr hen Beniel yno hyd nes i ffordd yr A494 gael
ei haddasu. Erbyn 1847, gwelwyd enw Peniel yn cael ei grybwyll yn yr adroddiad
gyda rhestr o aelodau, er mai aelodau yn y fam eglwys oeddynt.
Cyn codi’r
capel cyntaf hwnnw, “arferid cynnal Ysgol Sul yn ysgubor fferm Tyddyn Llywarch
sydd ar y ffordd ar ôl pasio Rhydsarn. Pan briododd Jane Thomas y sylfaenydd
gyda Dafydd Howell, mab Tŷ Mawr gerllaw, symudwyd yr ysgol yno cyn adeiladu’r
capel”.[1]
Bu i’r fagwraeth Gristnogol hon a gafodd y plant arwain i ddau o blant
Jane a Dafydd Howel fynd yn Weinidogion yn America.
Ymddengys fod yr hen Beniel wedi mynd yn rhy fach i’r gynulleidfa, ac
felly, fe gynlluniodd Richard Edwards Drws y Nant gapel newydd, a chost
adeiladu’r adeilad newydd fyddai £335. Mae hanes ar lafar gwlad yn nodi fel y
bu’r ffermwyr lleol yn gweithio’n ddyfal i gario cerrig i adeiladu’r adeilad
newydd, ynghyd â’r calch a’r pren, ac ati.
Ar hyd y
blynyddoedd, bu’r Ysgol Sul yn llewyrchus iawn yno, gyda phregeth a
chyfarfodydd gweddi rheolaidd. Ond cofiwn mai i’r Hen Gapel y byddai’r
gynulleidfa’n mynd y rhan fwyaf o’r amser ar gyfer pregeth, a hynny ar brynhawn
Sul. Ni chafodd Peniel ei chorffori’n Eglwys.[2]
Mae’r
‘Cyfarfod Bach’, sef cyfarfod cystadleuol wedi bod yn rhan allweddol o’r gangen
hefyd, gyda llawer o blant a phobl ifanc y fro yn cael cyfle i ddangos ac
amlygu eu doniau. Mae’r cyfarfod hwn yn parhau yn llwyddiannus hyd heddiw.
[1] Edwards, W. J., Taith drwy blwyf Llanuwchllyn, (Traethawd), tt.5
[2] Mae hyn yn wir am yr holl ganghenau o
bob enwad.