Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch

  • Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
  • Llanuwchllyn
  • Y Bala
  • Gwynedd
  • LL23 7NA


Email Us

Ieuenctid

Mae i'r ieuenctid le pwysig iawn ym mywyd yr Ofalaeth, gyda sawl gweithgaredd ar eu cyfer.


Ysgol Sul

Pob bore Sul, mae dwy Ysgol Sul yn yr Ofalaeth, sef Ysgol Sul Peniel, ac Ysgol Sul yr Awr Fawr (yn yr Ysgoldy)

Mae dosbarthiadau i blant cynradd, pobl ifanc oedran uwchradd, ac oedolion ym mhob Ysgol Sul yn wythnosol. Ceir amrywiaeth o weithgareddau, yn ganu, darllen, gweithgareddau celf a chrefft, chwarae gemau a llu o bethau eraill.

Awydd dod draw? Croeso ichi ymuno â ni!

Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am yr Ysgol Sul, a lawrlwytho adnoddau drwy ymweld â'n tudalen 'Ysgol Sul'


Grwp Ieuenctid

Ar nos Wener, bydd ieuenctid oedran bl.10 a hŷn yn dod i'r Ysgoldy i archwilio ffydd, holi cwestiynnau, a thyfu mewn ffydd a gwybodaeth o Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr.

O bryd i'w gilydd, byddwn yn ymweld â gwahanol lefydd fydd yn gymorth inni wneud hyn.

Dyma'r grwp fydd, maes o law, yn bwydo aelodau newydd i'r Eglwys. Os oes gan rhywun ddiddordeb mewn ymuno â ni, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth!


Oedfa Deulu

O bryd i'w gilydd, bydd y Gweinidog yn arwain oedfa deulu yn yr Ysgoldy neu'r Hen Gapel (gallwch weld lleoliad a manylion yr oedfa deulu nesaf drwy glicio ar Calendr).

Oedfa anffurfiol yw hon, yn llawn o emynau cyfoes, myfyrdodau amrywiol, a gweithgareddau hwyliog i bawb o bob oed. 

Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni!