Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch

  • Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
  • Llanuwchllyn
  • Y Bala
  • Gwynedd
  • LL23 7NA


Email Us

EGLWYS OFALGAR

 

Yn ganolbwynt i'n ffydd, mae ein cred fod Duw wedi datguddio'i gariad mawr tuag atom yn ei fab Iesu Grist. Fel Eglwysi a Gofalaeth, ceisiwn adlewyrchu'r cariad hwnnw ym mhob agwedd o'n gwaith; yn ein haddoliad, ein gofal am ein gilydd, ac yn ein tystiolaeth. 

I'n cynorthwyo i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adlewyrchu'r gofal a'r cariad hwnnw, mae gan yr Ofalaeth banel 'Eglwys Ofalgar'. Dyma'r panel sy'n edrych ar y modd y byddwn yn sicrhau ein bod yn darparu'r gofal gorau phosib, ac yn sicrhau diogelwch pawb. 


Swyddogion Panel Eglwys Ofalgar yr Ofalaeth


Cadeirydd

Parchedig Carwyn Siddall

Ysgrifennydd a Swyddog Diogelwch

Mr. Ifan Alun Puw

Aelodau eraill y panel

Mr. Arwel Jones; Mr. Emyr Wyn Jones; Mrs. Lis Puw;                Mrs. Gwenan Watkins

----------------------------------------------


Polisi Diogelu Plant ac Oedolion Bregus

Llawlyfr Diogelu Grwpiau BregusWrth sicrhau diogelwch plant ac oedolion bregys, rydym yn dilyn y canllawiau a geir gan y Panel Diogelwch Cydenwadol, ac a nodir yn y 'Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus'. Gellir gweld y polisïau ar wefan y Panel Diogelwch Cydenwadol drwy glicio ar y linc yma, ac fe ellir darllen cynnwys y Llawlyfr drwy'r linc yma.

Os am ragor o wybodaeth am y sut yr ydym yn gweithredu'r polisiau yma'n lleol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelwch.


GDPR

O ganlyniad i'r Ddeddf Diogelu Data 2018, mae gan Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch, ynghyd ag Eglwysi Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch bolisi gweithredol. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â'r polisi, neu os hoffech dderbyn copi llawn ohono, gellir derbyn un trwy law Ysgrifennydd yr Eglwysi neu trwy law Swyddog Diogelu Data presennol yr Ofalaeth, sef Mrs. Lis Puw. 


COVID-19

Gyda'r canllawiau yn newid yn gyson wrth i'r Llywodraeth ymateb i sefyllfa COVID-19, rydym yn dilyn y canllawiau a geir drwy law CYTUN, sef 'Eglwysi ynghyd yng Nghymru'. Gellir gweld y wybodaeth gyfredol a geir ganddynt drwy glicio ar y linc yma.

Wrth inni dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf, ceisiwn rannu'r wybodaeth perthnasol i'n sefyllfa ni â phawb mor fuan a phosib. Gellir gweld y dogfennau a baratoir drwy glicio ar y linc perthnasol isod. 

Mae'r Ofalaeth wedi paratoi Asesiadau Risg ar gyfer cynnal Oedfaon, Priodasau ac Angladdau yn yr Hen Gapel, a gellir derbyn copi ohonynt drwy law Ysgrifennydd y panel.


Dogfen yn ymateb i COVID-19 - 09-03-20

Canllawiau'r Ofalaeth wrth ail gychwyn cynnal Oedfaon- 13-09-20

Arweiniad yr Ofalaeth wedi cyhoeddiad y Prif Weinidog - 19-10-20