- Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
- Llanuwchllyn
- Y Bala
- Gwynedd
- LL23 7NA
Y Gymdeithas Ddiwylliannol
Cynhelir y Gymdeithas Ddiwylliannol yn ystod misoedd yr Hydref, y Gaeaf a'r Gwanwyn.
YSGRIFENNYDD
Siân Myrddin Gwent
-----------------------------------------------------------
Gan nad yw'n ymarferol bosib inni gyfarfod ar hyn o bryd, cynhelir y cyfarfodydd dros Zoom. Dyma raglen y Gymdeithas ar gyfer tymor 2020-2021. Cynhelir y Cyfarfodydd am 8:00 o'r gloch yr hwyr, ac os ydych am ymuno â ni, cysylltwch â ni i dderbyn y manylion cyswllt.
Bydd rhai o'r cyfarfodydd dros Zoom yn cael eu recordio a'u gosod ar sianel YouTube yr Ofalaeth, a gallwch eu gweld drwy glicio ar y ddolen 'Gwylio eto'.
Medi 8, 2020
Cwis dan ofal Siôn a Haf Llywelyn
Medi 22, 2020
Noson o hel atgofion plentyndod yn Llanuwchllyn yng nghwmni Fflur Jones, Mari Elain a Non Parri Roberts
Hydref 13, 2020
'Fy Hoff Nofel'. Noson yng nghwmni Beryl H. Griffiths
Tachwedd 17, 2020
Noson yng nghwmni Elin Jones, Llywydd y Cynulliad
Rhagfyr 8, 2020
Blas yr Ŵyl - Noson o goginio danteithion y Nadolig dan ofal Carwyn Siddall ac Alwyn Jones
Ionawr 5, 2021
Cyfarfod Gweddi dan ofal y Cyngor Cymuned (7:00pm)
Ionawr 19, 2021
Noson o hel atgofion dan arweiniad Llinos, ac yng nghwmni Meinir, Menai ac Olwen.
Chwefror 11, 2021
Noson yng Nghwmni Aled Wyn Davies, Pentre Mawr
Chwefror 23, 2021
‘Comisiwn Annibyniaeth’. Sgwrs gan Elfyn Llwyd a Fflur Jones
Mawrth 9, 2021
Dathliad Gŵyl Dewi yng nghwmni Mair Tomos Ifans
Mawrth 23, 2021
Huw Jones yn trafod ei lyfr "Dwi isho bod yn..."
Ebrill 13, 2021
Noson yng nghwmni Edwards Morus Jones ar y testun 'Hiwmor o fyd addysg'.
Ebrill 27, 2021
Eryl Owain a Myrddin ap Dafydd yn trafod Cofiant
Arthur Thomas