- Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
- Llanuwchllyn
- Y Bala
- Gwynedd
- LL23 7NA
Croeso i wefan
Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
Rydym yn Ofalaeth sy'n cynnwys chwech o Eglwysi. Yn ffurfio'r Ofalaeth, mae dwy Eglwys Annibynnol, un Eglwys Fedyddiedig, a thair Eglwys Bresbyteraidd.
Mae Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch yn Ofalaeth sydd wedi'i sylfaenu ar gariad Duw yng Nghrist, a thrwyddo Ef, yn cydnabod undod yr Eglwys, tra'n parchu traddodiadau amrywiol. Amlygir hyn yn ein haddoliad, ein gofal, ein gwasanaeth a'n cenhadaeth.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Linc Fideo ar gyfer yr Oedfaon, y Gwersi Ysgol Sul, a'r Gymdeithas Ddiwylliannol
Yn ystod y cyfnod heriol a phryderus hwn, mae'n bosib gwylio recordiad o holl Oedfaon yr Ofalaeth drwy ddilyn i linc isod. Dyma'r linc ar gyfer gwylio'r Ysgol Sul a gwylio'r oedfaon yn ystod y cyfnod na fyddwn yn cyfarfod ar y Sul.
Yn ogystal â recordiad o'r Oedfaon, ceir gwers Ysgol Sul ar gyfer y plant a'r Oedolion.
I gyd-fynd â'r clipiau fideo, gellir lawrlwytho fersiwn PDF o'r Oedfaon drwy ymweld â'r dudalen 'Addoli', ac adnoddau'r Ysgolion Sul drwy ymweld â thudalen yr Ysgol Sul.
Yn ystod misoedd y Gaeaf, cynhelir cyfarfodydd o Gymdeithas Ddiwylliannol Llanuwchllyn, ac eleni, bydd y nosweithiau'n cael eu cynnal dros Zoom. Gellir ail wylio rhai o'r sgyrsiau drwy ddilyn i linc isod, neu drwy ymweld â thudalen y Gymdeithas, a chlicio 'Gwylio eto' sydd ar gyfer y gwahanol nosweithiau.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Ar gyfer Oedfa Ddigidol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar gyfer Sul yr Urdd (15-11-2020) dan arweiniad y Gweinidog, cliciwch y linc isod.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Am y newyddion diweddaraf, cliciwch ar y linc isod i gysylltu â chyfrif trydar yr Ofalaeth!
LINC I DUDALEN TRYDAR YR OFALAETH
Cydnabyddir yn ddiolchgar nawdd a dderbyniwyd gan Banel Datblygu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i sefydlu'r Wefan hon.