Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch

  • Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
  • Llanuwchllyn
  • Y Bala
  • Gwynedd
  • LL23 7NA


Email Us

Y Bala

Hanes yr Annibynwyr yn Y Bala

gan Carwyn Siddall

 

Y Cychwyn (1659 – 1770)

Heb os, un o’r achosion Annibynnol cynharaf yn Sir Feirionnydd yw’r achos yn Y Bala, gyda chofnodion yn nodi pregethu yn y cylch gan Morgan Llwyd wrth iddo deithio yn ôl o Wrecsam i’w gartref yng Nghynfal Fawr. Gan gofio iddo farw ym mis Mehefin 1659, mae’n debyg felly i bregethu fod wedi cychwyn yn y cylch yn hanner cyntaf y 17G.

Parhaodd y pregethu yn y cylch gan Hugh Owen wedi iddo ymgartrefu ym Mronclydwr. Teithiai i bregethu yn chwarterol i oddeutu chwe lleoliad yn Sir Drefaldwyn, a’r un peth yn Sir Feirionnydd, ac ymhlith y lleoliadau hynny, roedd Y Bala. Wrth gwrs, pregethu mewn tai annedd oedd yr arferiad yn y cyfnod hwnnw, oherwydd yr erlid oedd i’w weld ar Ymneilltuwyr. Dywedir yn llawlyfr Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 1951, “yn 1672 rhoddwyd trwydded i bregethu annedd-dai a gofrestrwyd at y pwrpas”[1] . Yn dilyn marwolaeth Hugh Owen, cymerodd ei fab-yng-nghyfraith at yr awenau o ofalu am y gwaith yn Nhrefaldwyn a Meirionnydd, sef Edward Kenrick. Fe’i hurddwyd ar Awst 17, 1702 gan James Owen, Mathew Henry ac eraill, a derbyniodd y gangen yn Y Bala o’i Weinidogaeth. Yn ogystal â’i wasanaeth chwarterol, ymwelai Thomas Baddy, Dinbych â changen Y Bala yn fisol yn dilyn ei urddo yn Ninbych yn 1693.

Fel y dywedir, yn ystod y cyfnod cynnar hwn, mewn tai annedd yr arferent gyfarfod. Roedd, er enghraifft, gyfarfyddiad yn Bodwenni, Llandderfel, oedd yn gangen o gynulliad Y Bala[2] ond yn Y Bala, gan amlaf, mewn tŷ a elwid Store-house yng nghefn Plas-yn-Dre y byddai’r cyfarfodydd, ac yn ystod dyddiau byrion y gaeaf, cynhelid cyfarfodydd ar hyd y dydd. Ond, rhag ofn i’r erlidwyr ddod i ymosod ar y pregethwr yn y nos, ai i gysgu i Bodweni.

Yn 1737, ymddengys i Lewis Rees ddod i bregethu i’r Bala, ac ymhlith y gwrandawyr oedd gŵr o’r enw Meurig Dafydd, Weirglodd Gilfach, Llanuwchllyn. Ymhen amser, dechreuwyd pregethu yn Weirglodd Gilfach, a dechreuodd yr Ymneilltuwyr yn y Bala deithio yno i wrando ar bregethau. Erbyn 1739, mae’n debyg fod yr Eglwys (a chai ei hadnabod fel Eglwys Sir Feirionnydd) wedi symud i Lanuwchllyn. Ond dylid nodi, fel y gwnâi R. T. Jenkins yn ei gyfrol ar hanes

Cynulleidfa’r Hen Gapel, “Nid agor achos newydd yn Llanuwchllyn a’r hen achos yn parhau yn y Bala, ond symud yr achos yn ei grynswth o’r naill le i’r llall. Fe ddywed Kenrick hynny’n hollol groyw”[3] . Wedi wedi hyn, yr oedd pregethu yn parhau yn Y Bala er nad oes sicrwydd pwy a ddeuai yno i bregethu yn dilyn marwolaeth Thomas Baddy yn 1729 ac Edward Kenrick yn 1742. Er hynny, mae’n debyg fod Mr Jervice, Llanfyllin a Mr Lewis Rees, Llanbrynmair yn ymweld â nhw. Mae’n debyg hefyd fod pregethwyr Llanuwchllyn yn gofalu ychydig am Y Bala, a bod Evan Williams, Gweinidog Llanuwchllyn wedi gofalu amdanynt yn ystod ei Weinidogaeth yno o 1759 hyd 1765.  Erbyn hyn hefyd, roedd cynulleidfa Llanuwchllyn wedi dod yn llawer cryfach na chynulleidfa’r Bala, gydag adeilad addas hefyd wedi’i godi i addoli ynddo. Roedd rhai felly yn edrych ar achos Y Bala fel cangen o Lanuwchllyn gan mai i Lanuwchllyn yr eid i gael Cymun.

Rhoi Galwad i Weinidog, a chodi’r Capel Cyntaf (1770-1813)

Yn 1770, cymerodd cynulleidfa’r Bala gam pwysig iawn yn eu hanes, trwy roi galwad i Weinidog, sef Daniel Gronw, a thrwy ei lafur ef yn bennaf y codwyd y capel cyntaf. Yn ystod ei gyfnod ef hefyd y codwyd achosion Ty’nbont a Llandderfel. O edrych ar weithred y capel cyntaf dyddiedig Mawrth 22, 1774, gwelwn mai i Daniel Gronw y trosglwyddwyd y tir i adeiladu’r capel, ac ymddengys mai yn ei enw ef roedd y tir hyd nes y trosglwyddwyd ef i ymddiriedolwyr yr achos yn 1779, sef blwyddyn ei ymadawiad. Ni wyddom yn union ddyddiad adeiladu’r capel cyntaf hwnnw, dim ond ei fod o fewn y dyddiadau hynny, 1774-1779.

Ym mis Hydref 1779, cafwyd Gweinidog newydd, Evan Williams, Penybontarogwr. Roedd wedi cael cyswllt â’r Bala ynghynt gan iddo fod yn Weinidog yn Llanuwchllyn yn ystod y blynyddoedd 1759-1767. Yn ôl y Diacon Benjamin Chidlaw, a’r Henuriaid Robert Owen, Ellis Roberts, John Evans ac Ellis Jones, roedd “nid yn unig yn llafurus, ond hefyd yn llwyddiannus iawn, a bod crefydd wedi ennill tir yn fawr trwy ei sefydliad yn y lle”[4]. Cyflog y Gweinidog oedd 24p y flwyddyn.

Bu farw Evan Williams yn ystod ei Weinidogaeth yn y Bala, gyda’r bedydd olaf ganddo yn cael ei ddyddio Mawrth 9, 1786. Fodd bynnag, nid oedodd yr Eglwys, gan roi galwad i William Thomas, Hanover yn weinidog ar yr Eglwys, ac iddo gychwyn ei Weinidogaeth ym mis Mai 1787.

Ar gychwyn ei Weinidogaeth, mae’n debyg mai tua 80 oedd nifer y Cymunwyr, ond bod llawer ohonynt yn rhy dlawd i gyfrannu’n ariannol tuag at yr achos. Ond, teg yw cydnabod mai cyfnod digon ansicr yn hanes yr Eglwys oedd cyfnod ei Weinidogaeth (1787-1809). Cododd anghydfod tua’r flwyddyn 1800 a arweiniodd at ymraniad yn y gynulleidfa, gydag un rhan yn symud i addoli mewn tŷ a elwid y Cross-Keys yn Llanycil. Er nad ydym yn gwybod beth oedd achos hyn, gwyddom fod sawl peth wedi digwydd tua’r un cyfnod. Gwyddom er enghraifft i’r Gweinidog brynu tir gwag rhwng y capel a’r ffordd, ac adeiladu tai arno. Mae’n debyg fod pwmp dŵr ar y tir oedd yn sicrhau dŵr i’r gymdogaeth, ond i William Thomas ei symud o ran ei gyfleustra ei hun ac i hynny godi tipyn o ffrae ynglŷn â hawliau’r cymdogion ac ati. Tua’r un cyfnod hefyd y bu farw gŵr o’r enw Robert Jones, Coedyfoel. Mae’n debyg ei fod yn ŵr hynaws a charedig tuag at yr achos, ond heb fod yn aelod. Mae’n debyg i William Thomas ddweud yn ei angladd ei fod yn ddyn Duwiol er nad oedd yn proffesu crefydd, ac i hynny droi’r drol gyda llawer. Mae rhai yn dadlau mai gŵr o’r natur hynny oedd o, ac mai’r ffordd a fynegodd ei hun oedd y broblem, gan i’r un math o achosion godi yn Hanover yn ystod ei Weinidogaeth flaenorol, ond diolch i rai megis Dr Lewis, Llanuwchllyn, aethpwyd ati i geisio cymodi.

Ym mis Mai 1809, bu farw William Thomas, ac yn ôl y garreg goffa sydd yn y Capel presennol, daeth John Lewis, myfyriwr o Goleg Wrecsam yn Weinidog ar yr Eglwys. Ond, yn y Cofiant i John Lewis, urddwyd ef yn y Bala yn 1807 gyda Dr. Lewis Llanuwchllyn, J. Griffith, Caernarfon, W. Hughes, Dinas, J. Roberts, Llanbrynmair, W. Jones, Trawsfynydd, Jenkin Lewis, Wrecsam a B. Jones, Pwllheli yn cymryd rhan. Hefyd, yn ôl llyfr bedyddiadau’r Eglwys, roedd bedyddiadau wedi eu cymryd rhwng 1807 ac 1809 gan William Thomas a John Lewis, sy’n awgrymu felly fod y ddau wedi bod yn gyd-weinidogion am gyfnod. Wedi dweud hynny, tybiai rhai mai wedi ei sefydlu i’r garfan a ymwahanodd i’r Cross-Keys oedd John Lewis yn wreiddiol, a’i fod, yn dilyn marwolaeth William Thomas, wedi llwyddo i adfer y rhwyg. Wedi’r cyfan, disgybl i Dr. Lewis, Llanuwchllyn oedd John Lewis, ac roedd Dr. Lewis yn ymwybodol o’r sefyllfa a chyda cydymdeimlad tuag at y garfan oedd wedi mynd i’r Cross-Keys. Byddai hyn hefyd yn ateb y cwestiwn pam mai 1809 oedd dyddiad ei sefydlu yn ôl y garreg goffa. Tystiai’r Parch. Hugh Thomas mewn cofiant i’w frawd, y Parch. W. Thomas, Biwmares, am y cyfnod yma, “Bu achos yr Annibynwyr yn y Bala trwy lawer o dywydd. Bu yn gryn ystorom ar derfyn gweinidogaeth y Parch. W. Thomas, ond tawelwyd honno trwy bwyll a deheurwydd ei olynydd y Parch. J. Lewis”[5]

 

Codi capel newydd (1813-1841)

Yn y flwyddyn 1813, adeiladwyd capel newydd, a chredir i John Lewis fynd i Lundain i gasglu arian, ac y llwyddodd i godi 100p. Er y bu ychydig o anghydfod gyda’r arian rhwng John Lewis a rhyw fasnachwr o’r Bala, codwyd y capel. Yna, deg mlynedd yn ddiweddarach, yn y flwyddyn 1823, ymddeolodd John Lewis, gan symud i fyw at ei ferch i Hafod-yr-haidd, Llanuwchllyn, lle y bu weddill ei oes.

Yn nechrau 1824, derbyniodd John Ridge, Penygroes alwad gan yr Eglwys, a bu’n boblogaidd iawn gan bob enwad yn y dref. Bu ei gyfnod yn hynod fendithiol. “Gwnaeth Mr. Ridge ddaioni dirfawr yn y dref hon, ac y mae’n debyg na fu mewn un man mor ddefnyddiol … canai ‘Salmau a hymnau ac odlau ysbrydol’ mewn teuluoedd, nes twymo calon yr hen, a difyrru y rhai ieuainc … llanwodd y capel hyd yr ymylau … Gweinidogaeth y cynhyrfu oedd gweinidogaeth Mr. Ridge”[6] . Dyna grynodeb o’i lwyddiant a barhaodd hyd nes y symudodd i Cendl, Sir Fynwy yn 1829.

Roedd yr Ysgol Sul erbyn hyn wedi hen sefydlu ei hun, gyda chyfrif y plant yn 133. Hefyd, roedd canghennau o’r Ysgol Sul yn Llanfawr, Linc (ger Pantglas) a Ty’nbont, gyda rhif y plant rhwng y pedwar lle yn 240.

Wedi bod am ddwy flynedd heb Weinidog, rhoddwyd galwad i Richard Jones, myfyriwr yn athrofa'r Drenewydd, ac urddwyd ef ar Fai'r 3ydd a’r 4ydd, 1832. Yn ei gyfarfod sefydlu, pregethwyd ar natur eglwys gan Michael Jones, Llanuwchllyn, holwyd y gofyniadau gan Mr. C. Jones, Dolgellau, rhoddwyd yr urdd weddi gan Mr. J. Roberts, Capel-garmon, pregethwyd i’r Gweinidog gan Mr. T. Lewis, Llanfair-ym-muallt, ac i’r Eglwys gan Mr. W. Williams, Wern. Gweinidogaeth gymharol fer a gadodd yn Y Bala, gan ymadael 1835.

Difyr yw darllen yn llyfr Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru ddweud fel hyn yn dilyn ymadawiad Richard Jones: “Curodd tymhestloedd cryfion ar yr achos yn y cyfnod yma, ond ‘er ei fwrw i lawr ni lwyr ddifethwyd ef’, ac ni chaniataodd yr Arglwydd i’r rhai a geisient ei einioes i gael eu hewyllys arno”[7]. Ni cheir unrhyw fanylion beth oedd natur y stormydd hyn, ond gwyddom i’r Eglwys eu gwrthsefyll. Tystiai Llawlyfr Undeb 1951 yr un peth, gan fynd mor bell a dweud mai “Brwydr galed fu hi i gadw’r eglwys wrth ei gilydd”[8] . Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ac am gyfnod o 8 mlynedd, bu’r Eglwys yn ddi-weinidog.

Athrofa’r Bala a chychwyn Cydweithio (1841 - 1859)

Yn 1841, sefydlodd Gweinidog Llanuwchllyn ar y pryd, Michael Jones, goleg diwinyddol, gan ei symud yn 1842 i’r Bala. Gan fod y Coleg wedi symud i’r Bala, penderfynodd Michael Jones roi ei ofal o’r Eglwys yn Llanuwchllyn heibio, a hynny wedi 28 mlynedd o lafur yno, gan dderbyn galwad gan gynulleidfa’r Bala gan barhau ei waith gyda’r Coleg hefyd. Gyda’i gymeriad cadarn, llwyddodd hefyd. Gweithiodd y trefniant hwn yn wych gan i Michael Jones wasanaethu dau Sul o’r mis, a’r myfyrwyr ar y Suliau eraill. Wrth edrych ar hanes Eglwysi eraill yn y fro, yn ystod ei Weinidogaeth yn Llanuwchllyn, gofalai am Rhydywernen, Soar Cwm-main, Bethel, Llandrillo a Llandderfel hefyd, ond pan ddaeth yn Weinidog yn Y Bala a Thy’nbont, gollyngodd ei afael yn Rhydywernen a Llandrillo, gan barhau i ofalu am y lleill. Llafuriodd yn galed gydol ei oes,  gan barhau yn Weinidog hyd ei farwolaeth ar Hydref 27, 1853.

Yn niwedd 1854, rhoddwyd galwad i fab Michael Jones, sef Michael Daniel Jones, Bwlchnewydd. Yr oedd pwyllgor y coleg hefyd wedi ei ddewis i fod yn olynydd ei dad fel athro. Ond, oherwydd maint y gwaith oedd ganddo mewn meysydd eraill hefyd, rhoddodd ei waith fel Gweinidog yr Eglwys yn Y Bala a Thy’nbont i fyny yn 1859.

Rhaid nodi yma fod y cyfnod hwn yn gyfnod o gydweithio agos rhwng yr Eglwys a’r Coleg. “Bellach - hyd 1880 mae hanes Eglwysi Ty’nbont a’r Bala’n gymysg â hanes yr Athrofa, oblegid athrawon yr Athrofa a fu eu gweinidogion yn y cyfnod hwnnw”[9].

 

Gweinidog newydd a Chapel newydd (1859 – 1914)

Yn dilyn anogaeth ac arweiniad gan Michael D. Jones iddynt geisio Gweinidog arall, rhoddwyd galwad i John Peter, neu Ioan Pedr fel y’i gelwid, un o aelodau’r Eglwys, i ddechrau pregethu. Derbyniodd ei addysg yn yr athrofa yn y Bala, ac urddwyd ef yn Weinidog ar Fawrth 30, 1859. Yn y cyfarfod hwn, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Ellis, Brithdir, holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Jones, Abermaw, gweddïodd Michael D. Jones, pregethodd Mr. C. Jones, Dolgellau i’r Gweinidog, a Mr. D. Roberts i’r eglwys. Yr oedd ei Weinidogaeth yn hynod lwyddiannus, gyda’r gynulleidfa yn cynyddu’n fawr. Cafodd ei benodi’n athro yn y coleg, ond parhaodd fel Gweinidog yr Eglwys hefyd, gyda’i gyflog blynyddol fel Gweinidog ac Athro ond yn £50.00. Erbyn hyn, roedd y Capel a godwyd yn 1813, wedi mynd yn rhy fach i’r gynulleidfa, ac angen ei adnewyddu’n fawr. Felly, cafwyd tir gerllaw ar brydles o gan mlynedd, ac yn y flwyddyn 1867, codwyd capel newydd, hardd ar y gost o £1,200. Yn ôl llyfr casgliad yr Eglwys, gwelir, yn llaw Ioan Pedr, yr apêl yma:

The town of Bala is on several accounts one of the most important towns of North Wales. It is neither large nor wealthy, but has been long famous in connection with religion, and its history is very interesting – to Dissenters especially. Lines of Railway, from different directions are either already opened, in course of construction or in completion. Buildings of all kinds, especially for religious and educational purposes are fast improving. The old Independent Chapel had become dilapidated and uncomfortable, and under these circumstances the church thought it an imperative duty to construct a new one. After a great deal of difficulty, a good site was secured, plans drawn, and contractors entered into. The new Chapel, including the land, will cost about £1,450, already paid £650. The old chapel will bring about £200 and they expect to make about £50 more by the day of the opening. There will remain £550 debt (unless help be received from without). The Church has made a great united effort at home, and therefore feels justified in appealing to the generosity of others[10].

Ni wyddom beth oedd effaith yr apêl.

Difyr yw sylwi na fu enw ar y capel ac eithrio “Capel Newydd”. Ond dyna’r enw ar y capel blaenorol hefyd oherwydd ei fod, mae’n debyg, yn fwy newydd na chapel y Methodistiaid. Ond ar lafar, fe gyfeirid at y capel fel ‘Capel Ioan Pedr’ hefyd.

Yn dilyn adeiladu’r capel, yn ystod un gaeaf oer, penderfynwyd prynu stôf i gynhesu’r capel, ond mae’n debyg i un o’r diaconiaid, Tomos Cadwaladr, wrthwynebu’n fawr gan y credai nad oedd angen ond gwres yr Efengyl i gadw calonnau pechaduriaid yn gynnes! Fodd bynnag, prynwyd y stôf. Y Sul canlynol, daeth Tomos Cadwaladr i’r set fawr yn ei gôt fawr. Yn dilyn cychwyn yr oedfa, tynnodd ei gôt, a sychu ei wyneb gyda hances boced gan ddweud yn uchel ‘Bobol bach, toes dim posib byw mewn lle mor boeth â hyn; mae hi fel pe baem ni yn nhŷ popty John Robaits’. Ond atebodd Ioan Pedr, gan wenu, ‘Does dim tân yn y stôf, Tomos bach’!

Yn dilyn cyfnod llewyrchus Ioan Pedr, bu’r Eglwys yn ddiweinidog eto am ychydig o flynyddoedd cyn rhoi galwad i Robert Thomas, a ddaeth yn adnabyddus fel ap Vychan yn dilyn ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhyl yn 1864 - un o ddwy gadair genedlaethol iddo’i hennill. Fe’i magwyd yn Nhŷ Coch, Penantlliw, Llanuwchllyn cyn i’r teulu symud i Tan-y-castell, tŷ mwy a godwyd gan ei dad. Cyn bod yn 10 oed, roedd yn fugail yn Nhŷ Mawr, “aelwyd nodedig am ei chrefydd a'i moes, a chafodd yno argraffiadau nas dilëwyd ar hyd ei oes”[11]. Yn dilyn amryw o swyddi, a theithio i nifer o lefydd, “symudodd i Gonwy ddechrau 1835 a'r haf dilynol pregethodd am y waith gyntaf a hynny yng nghapel Henryd gerllaw”[12]. Yn 1840, rhoddwyd galwad iddo i Ddinas Mawddwy, ac urddwyd ef yno ar Fehefin 18 ac 19, 1840. Yn dilyn cyfnod o Weinidogaethu yno, yn Salem Lerpwl, Rhosllannerchrugog ac Ebeneser Bangor, cafodd ei benodi yn athro Diwinyddiaeth yng Ngholeg Y Bala, ynghyd â bod yn Weinidog ar y gynulleidfa, a hynny hyd ei farwolaeth ar 23 Ebrill, 1880, a chladdwyd ef ym Mynwent yr Eglwys yn Llanuwchllyn.

Pedair blynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd galwad i Talwyn Phillips i Weinidogaethu ar yr Eglwys. Yr oedd wedi derbyn ei addysg yng Ngholeg Y Bala yn dilyn ei dderbyn i’r Coleg yn 1874 ac yntau ond yn 18 oed. Ond, yn niwedd ei gwrs, yn 1877, “rhoed caniatâd iddo ef a Mr. Pari Huws, fynd i Brifathrofa Yale, yn America”[13] . Graddiodd gyda B.D. yn 1880, gan ddychwelyd i Gymru, a derbyn galwad i Ebeneser, Llanrwst gan ei urddo yno ar Fai 3 a 4. Ond nid oedd yr Eglwys honno yn cael ei chydnabod yn Eglwys reolaidd, ac felly nid yw ei enw yn ymddangos ym Mlwyddlyfr 1883. Y flwyddyn ganlynol, derbyniodd dwy alwad i Sir Feirionnydd, i Ddinas Mawddwy a’r Bala, a throdd ei feddwl i’r Bala. Roedd yn cyrraedd y Bala yn dilyn cyfnod helbulus iawn. Yr oedd ffrae wedi codi rhwng Michael D. Jones a John Thomas, Lerpwl ynglŷn â chyfansoddiad y Coleg Diwinyddol. Roedd Michael D. Jones am gadw pethau fel ag yr oeddynt, ond John Thomas am eu diwygio, ond pryder Michael D. Jones oedd bod y diwygio hwn yn Presbytereiddio’r Coleg, a maes o law, yr Eglwysi Cynulleidfaol. Arweiniodd hyn at rwyg, gyda choleg Michael D. Jones yn parhau yn Bodiwan, a Choleg John Thomas yn ymgartrefu ym Mhlas-yn-dre. Ond yn 1886, symudodd John Thomas ei goleg i Fangor, ac yn 1892 pan ymddeolodd Michael D. Jones, daeth y ddau goleg yn ôl i gydweithio ym Mangor, gan arddel yr enw Coleg Bala-Bangor. Ac yng nghanol y berw hwn yn y dref y glaniodd Talwyn Phillips i Weinidogaethu. Ond, “daeth yno, nid i fod yn ddyn plaid, ond hyd y medrai yn ddolen undeb rhwng pawb … Nid yw’n ormod dweud iddo trwy ei amynedd a’i raslonrwydd, a bendith y nef, fod yn gymorth i iachau a phereiddio awyrgylch enwadol y dref a’r sir - a thrwy hynny wasanaethu crefydd yn gyffredinol”[14]. Bu’n Weinidog hynod boblogaidd am 34 o flynyddoedd, ac fel arwydd o barch y gynulleidfa tuag ato, ac er cof amdano, codwyd carreg goffa iddo yn y capel, ble y nodir enwau holl gyn-weinidogion yr Eglwys arni.

 

Troad y Ganrif a newid byd (1914 – 1984)

Yn ystod ei Weinidogaeth, gwelwyd sawl addasiad mawr yn y Capel. Yn gyntaf, cafodd yr Eglwys swm sylweddol o arian yn ewyllys gwraig o’r enw Ann Griffiths, a chyda’r arian hwnnw y codwyd y festri. Prynwyd hefyd dŷ i’r gweinidog, sef Glandŵr, Heol Tegid. Ond dyma’r cyfnod adeiladu’r Organ newydd hefyd. Mae ym meddiant y capel y ffeil wreiddiol sy’n cynnwys holl fanylion yr adeiladu, y cynlluniau a’r modd y byddai’r offeryn arbennig yma yn cael ei hadeiladu a’i gweithio. Fe’i hadeiladwyd gan gwmni James Binns, Bramley Organ Works, Leeds. I agor yr Organ, cafwyd Datganiad gan y Dr. Caradog Roberts, Rhosllannerchrugog, a hynny ar nos Wener, Awst 14, 1914. “Yn wreiddiol, dŵr oedd yn gweithio’r organ, a hynny hyd at 1950 pryd y rhoddwyd ‘Electric Blower’ ynddi ar gost o £750.00” [15]. Mae i’r Organ 20 stop, dwy allweddell a bwrdd pedalau llawn.

Yn 1917, 196 o aelodau oedd yn yr Eglwys, 136 yn yr Ysgol Sul, ac 19 o athrawon. Dysgwyd 5,769 o adnodau gan y plant, a’r casgliad oedd £16-14-6½d. Difyr hefyd yw gweld mai un o gymdeithasau’r Eglwys oedd Cymdeithas Dorcas, sef Cymdeithas i wnïo a thrwsio dillad. Byddai’r gwragedd yn cyfarfod yn y festri unwaith yr wythnos yn ystod y gaeaf, ac yn ôl pob tebyg, trwsio dillad ar gyfer wyrcws y dref a wnaent.

Ni wyddom lawer am y Gweinidog a ddilynodd Talwyn Phillips, sef William Morse, ac eithrio’r ffaith iddo ddod i Weinidogaethu’r Eglwys yn 1921, gan gael ei sefydlu ar Fedi 9 a 10. Dyma’i Eglwys gyntaf ar ôl derbyn ei addysg yng Ngholeg Aberhonddu, a bu’n weinidog llwyddiannus a hapus am saith mlynedd cyn symud i Ebeneser, Trecynon yn 1928.

I’w ddilyn, sefydlwyd Owen Morris, a hynny ar Ebrill 10, 1930. Fe’i magwyd yn Eglwys Soar, Pantybuarth, gan dderbyn ei addysg yng Ngholeg Bala-Bagor. Cafodd ei Ordeinio yn Weinidog yng Nghapel Mawr a Hermon, Môn, cyn symud i Albion Park, Caer. Oddi yno y daeth i’r Bala. Dyma a ddywedai'r Dr. J. D. Jones amdano yn y Dysgedydd, “Cofiaf yn dda y tro cyntaf y clywais ef. Yr oedd y dyn ei hun yn ddymunol ac yn ddiddorol i edrych arno. O daldra cyffredin, ei wallt crych yn britho, ac mewn gwisg o frethyn brithlwyd. Nid oedd dim o’r clerigwr o’i gwmpas. Meddai ar lais rhagorol, mor glir â’r gloch. Yn wir, perthynai iddo holl deithi allanol pregethwr da. Eithr ni allai neb wrando ar Mr. Morris am bum munud heb sylweddoli fod ganddo hefyd y cymhwyster gorau a’r mwyaf anhepgor i bregethu, sef ysbryd duwiolfrydig, Efengyl ddiffuant, a gwir deyrngarwch i’w Arglwydd”[16]. Yn anffodus, daeth salwch i’w ran, a bu farw yn 1937, a hynny ystod ei Weinidogaeth yn 54 oed, a’i gladdu ym mynwent Llanycil.

I’w ddilyn y daeth  Ifor O. Huws. Â’i wreiddiau ym Mhenmaenmawr, ac yn hanu o’r un teulu a’r Parchg. Llewelyn C. Huws, cafodd addysg ym Mhrifysgol Bangor ac yng Ngholeg Bala-Bangor gan gychwyn ei Weinidogaeth yn Nhrerhondda. Yna, derbyniodd alwad i Eglwys Radnor Walk, Llundain, a thra yr oedd yno, bu’n Llywydd Cyfundeb Llundain. Yn 1941, derbyniodd alwad i’r Bala, gan ei sefydlu ar Ebrill 1 a 2. Bu’n Weinidog hynod weithgar a llwyddiannus, yn ogystal â bod yn olygydd y dudalen genhadol wythnosol yn y Tyst a chyfrannu i gylchgronau eraill. Ef oedd Gweinidog yr Eglwys pan wahoddwyd Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb i’r cylch yn 1951, gan baratoi Hanes yr Achos yn y Llawlyfr. Ef hefyd oedd Llywydd y pwyllgor lleol a Golygydd y Llawlyfr. Symudodd yn 1955 i ofalu am Eglwysi Penmorfa a Phentrefelin. Yn ystod ei lesgedd, enillodd wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol dan y ffugenw ‘Dal ati’ – enw arwyddocaol iawn i grynhoi ei lafur.

Swyddogion yr Eglwys yn y cyfnod yma oedd Mr. D. W. Roberts (Ysgrifennydd), Mr. Ellis Evans, Berwynfa (Trysorydd), Mr. G. Ifor Evans, Parchg. Hywel O. Jones a Dr. A. L. Davies. Fodd bynnag, y 1953, etholwyd rhagor o Ddiaconiaid, sef Mr. Gwilym Williams, New Shop, Mr. R. A. Blythin, a Mr. Aneurin Humphreys (a oedd hefyd yn un o’r Organyddion).  Yn y flwyddyn honno, roedd aelodaeth yr Eglwys wedi cynyddu i 221, ond yr Ysgol Sul wedi lleihau i 60 o blant, a 9 athro.

Rhaid cofio hefyd mai dyma gyfnod yr ail ryfel byd, ac fel y rhan fwyaf o Eglwysi’r wlad, ni aeth Capel yr Annibynwyr heb golledion o blith ei bechgyn ifanc. Dau a fu farw, sef Harri Jones, New Shop a John Arthur Hughes, Mount Street, ac er cof amdanynt, rhoddwyd ‘vase’ gan y Gymdeithas Ddiwylliannol ar yr allor, gydag enwau’r ddau wedi eu hysgythru arni.

Gyda’r Eglwys yn parhau yn ddiweinidog, etholwyd rhagor o Ddiaconiaid yn 1956, sef Mr. Gwilym Williams, Dr. M. P. Jones, Mr. I. B. Jones, a Mr. Robert Jones.

Wedi dwy flynedd, llwyddwyd yr Eglwys i roi galwad i R. Gwilym Williams, gŵr o Fethesda yn wreiddiol, ond oedd ar y pryd yn Gweinidogaethu yng Nghapel Ifan a Hebron, Llannerchymedd, Sir Fôn. Cynhaliwyd y cyfarfod Sefydlu ar ddydd Mercher, Tachwedd 13 gyda’r Parchg. J. C. Jones, Rhydymain yn Llywyddu, a’r Parchg. R. H. Williams, Chwilog yn pregethu. Bu iddo Weinidogaethu yn y Bala am 26 o flynyddoedd, ac yn “weinidog ffyddlon, diwyd a gofalus ac ’roedd yn gymeradwy gan bawb”[17]. Cynhaliwyd ei gyfarfod ffarwelio ar Ragfyr 18, 1983.

Bu llawer o newidiadau a datblygiadau yng nghyfnod Gwilym Williams. Yn gyntaf, ffurfiwyd Gofalaeth ehangach, a hynny yn wyneb prinder Gweinidogion. Yr Eglwysi a ymunodd oedd Gellioedd a’r Groes, Llangwm, a hynny ar Ionawr 21, 1966. Yn y cyfarfod hwnnw i nodi cychwyn y cydweithio, ac i sefydlu Gwilym Williams yn Weinidog arnynt yn ogystal â’r Bala, Llywyddwyd gan y Parchg. Gerallt Jones, Llanuwchllyn, gyda’r Parchg. Ifan Wynne Evans, cyn Weinidog Gellioedd a’r Groes yn pregethu.

Dyma hefyd y cyfnod pryd y prynwyd tir ar Ffordd y Gerddi i adeiladu Blaen y Wawr fel tŷ Gweinidog yn lle Glandŵr, Heol Tegid. Dechreuwyd adeiladu’r tŷ yn 1965, gyda’r Gweinidog a’i deulu yn symud yno yn 1966. Dyma hefyd pryd y gwnaethpwyd gwaith helaeth ar y capel oherwydd pydredd sych. Yn sgil y gwaith hwnnw, manteisiwyd ar y cyfle i addurno’r capel oddi mewn ac allan. Yn naturiol, roedd y gwaith yma i gyd yn costio llawer o arian, ac er i’r Eglwys fod mewn dyled, tynnodd pawb at ei gilydd, a thrwy haelioni aelodau a chyfeillion yr Eglwys, gweithgareddau codi arian a gwerthu ‘Gandŵr’, llwyddwyd i glirio’r ddyled, gyda’r gwaith i gyd wedi ei orffen mewn pryd i groesawu nifer o addolwyr oedd yn ymweld â’r dref ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1967.

Arwyddocaol hefyd yw i’r gwaith fod wedi ei orffen erbyn 1967 oherwydd dyma flwyddyn dathlu canmlwyddiant y Capel. Penderfynwyd cyplysu’r dathliadau gyda chyfarfod y Cwrdd Chwarter a’r Gymanfa Bregethu, a’i gynnal ar Ddydd Mawrth a Mercher Hydref 3 a 4. Pregethwyd ar y nos Fawrth gan y Parchg. Trebor Lloyd Evans, Treforys (un a gafodd ei fagu yn yr ardal), gyda’r Cwrdd Chwarter ar y bore Mercher, a’r cyfarfod dathlu yn y prynhawn dan lywyddiaeth y Gweinidog. Gwahoddwyd nifer i adrodd eu hatgofion, gan gynnwys Mr. D. W. Roberts, Parchg. Trebor Lloyd Evans a’r Parchg. O. Alaw Williams (trwy lythyr). I gloi’r dathliadau, cafwyd oedfa bregethu gyda’r Parchg. Trebor Lloyd Evans yn pregethu unwaith eto.

Yn 1971, gyda datblygiadau modern y cyfnod, daeth ddiwedd oes cynhesu’r adeilad gyda golosg, gan roi system wresogi olew yn y capel.

Cynyddodd yr aelodaeth unwaith eto erbyn 1976 pryd y gwelwyd yr aelodaeth yn 240, a 79 o blant. Fodd bynnag, difyr yw sylwi, hyd yn oed erbyn 1981, i’r aelodaeth barhau i godi nes cyrraedd 280, sef y nifer uchaf o aelodau yn hanes yr achos, ond i nifer y plant barhau i syrthio i 46. Ond gwelwyd lleihad hefyd yn nifer y plant yn yr ysgolion dyddiol, felly lleihad naturiol, anorfod oedd hyn. Y flwyddyn honno hefyd, etholwyd Diacon newydd, sef Mr. H. A. P. Jones, gyda Mrs. Euronwy Lloyd Jones, Mrs. Ann Evans a Mr. William Jones yn cael eu hethol y flwyddyn ganlynol.

 

Y cyfnod diweddar (1984 - 2017)

Yn dilyn ymadawiad R. Gwilym Williams, wedi tair blynedd o geisio Gweinidog, llawenydd mawr oedd derbyn ymatebiad cadarnhaol i’r alwad a estynnwyd i Rhys Tudur, oedd yn Gweinidogaethu yng Ngwaelod-y-garth, Pontypridd ac Ynysybwl ar y pryd. Cynhaliwyd y Cyfarfod Sefydlu ar Fehefin 9, 1984 gyda’r cyn-weinidog yn Llywyddu. Wrth gwrs, tad Rhys Tudur oedd Prifathro Coleg Bala-Bangor, a’i dad a oedd yng ngofal y sefydlu. Bu Rhys Tudur yn Weinidog hynod o weithgar yn yr Ofalaeth, gan weithio’n ddiflino gyda’r plant a’r ieuenctid yn ogystal â gyda’r Oedolion gyda’r cyfarfodydd wythnosol megis y Seiat a’r Cyfarfod Gweddi, y gymdeithas a’r Seiat Fach yn fendith fawr. Wrth gwrs, dyma’r cyfnod y gwelwyd cychwyn agor siopau a chwaraeon ac ati ar y Sul, ond wynebodd Rhys Tudur her y cyfnod, gan geisio ffyrdd newydd o Weinidogaethu, yn arbennig ymhlith yr ieuenctid drwy gynnal dosbarth anffurfiol ar ei aelwyd i’r bobl ifanc ar nos Sul i drafod ffydd ac ati.

Yn dilyn pum mlynedd o Weinidogaeth, ymadawodd Rhys Tudur gan adael yr Eglwys unwaith eto yn ddi-fugail. Arwydd o sefyllfa’r oes oedd, ac yn 1991, penderfynwyd ymuno ag Eglwysi Cylch Edeirnion a Phenllyn oedd ar y pryd o dan Weinidogaeth Rhisiart Gareth Huws. Bellach, roedd yr Ofalaeth yn cynnwys Moreia Cerrigydrudion, Rhydywernen, Soar Cwmain, Gellioedd, Groes Llangwm a’r Bala. Bu Gareth Huws yn hynod weithgar a brwdfrydig, gyda blynyddoedd cynnar ei Weinidogaeth yn y cylch yn llawn bwrlwm. Fel yn hanes llawer Eglwys arall, er gwaethaf llafur Gweinidog a Swyddogion, profwyd colledion, gyda’r aelodaeth yn syrthio. Chwithdod mawr oedd gweld yr Ysgol Sul yn dod i ben a hynny’n dilyn llafur diflino’ athrawon ar hyn y blynyddoedd, yn fwy diweddar Mrs Hawkins, Lilian Jones, Nia Jones Evans a Diana Davies. Bu iddynt weithio’n ddiflino gyda’r plant gan eu paratoi ar gyfer oedfaon Nadolig a Diolchgarwch ynghyd â’r Eisteddfod. Dyma hefyd ddiwedd cyfnod Eisteddfod y Capel fyddai’n cael ei chynnal yn flynyddol gyda chystadleuwyr yn dod o bell ac agos. Yn 2011, wedi ugain mlynedd o Wasanaeth, ymddeolodd Gareth Huws gan ymgartrefu yn Wrecsam.

Teg yw cydnabod fod yr Eglwys wedi teimlo’r blynyddoedd a ddilyn yn rhai caled wrth i nifer yr addolwyr syrthio, a dim Gweinidog i’w harwain. Wedi dweud hynny, rhaid canmol gwaith diflino a dycnwch y Diaconiaid ar y pryd, sef William Jones, John James, Eunice Rowlands, Eifion Evans ac Ann Evans. Yn 2015, gwelodd yr Eglwys yn dda i ethol rhagor o Ddiaconiaid i gynorthwyo â’r gwaith, sef Gwyn Jones a Gwennan Watkins.

Yn 2016, wedi ystyried gwahanol opsiynau, cam mawr yn eu hanes oedd penderfynu ymuno â Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a’r Cylch o dan Weinidogaeth Carwyn Siddall. Cynhaliwyd y Cyfarfod Sefydlu ar ddydd Sadwrn, 8 Hydref gyda Mrs. Bethan Davies Jones, Llywydd y Cyfundeb yn Llywyddu, a’r Parchg. Iwan Llewelyn Jones, Gweinidog cylch Rhydymain yn Pregethu. Roedd y Sefydlu yng ngofal y Parchg. Anita Ephraim, Gofalaeth Bro Trawsfynydd, a’r Weddi yn cael ei hoffrymu gan y Parchg. Dylan Parry, Gweinidog Bro’r Creuddyn. Wedi sawl canrif, dychwelodd yr Eglwys yn ôl i’w gwreiddiau rhywsut, gyda’r cydweithio rhwng Y Bala a Llanuwchllyn  wedi ail gychwyn.

Profodd 2016 yn flwyddyn o adfywiad. Ail gyfodwyd y parti Nadolig er mwyn ceisio adfywio agwedd gymdeithasol yr Eglwys, a bwriedir yn ystod 2017 cychwyn cyfarfod pnawn canol wythnos. Hefyd, gwariwyd yn helaeth i adnewyddu’r Organ, gan gynnal cyngerdd ym mis Ionawr 2017. Mae Pwyllgor yr Adeiladau hefyd yn cyfarfod yn gyson gyda chynlluniau ar y gweill i adnewyddu’r adeiladau.

Teg yw dweud bod yma Eglwys sydd wedi profi sawl haf, ond hefyd wedi gweld ambell dywydd garw, ond wedi gwrthsefyll y cyfan dan fendith Duw, a’r weddi yw y bydd yr Eglwys yn parhau i fynd yn ei blaen, gan ddwyn clod i Iesu Grist. Fe deimlodd Robert ap Gwilym Ddu ryw sicrwydd drwy ffydd: “Mewn oesoedd rif y tywod mân, ni fydd y gân ond dechrau…” a’r her i ninnau yw ceisio’r un sicrwydd a ffydd wrth wynebu’r dyfodol.



[1] Llawlyfr Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg – Y Bala, 1951 (Gwasg Y Cyfnod, Y Bala, 1951), tt.54

[2] a dylid nodi i’r cynulliad hwn barhau hyd yn oed wedi i gynulliad Y Bala symud i Lanuwchllyn i addoli.

[3] Jenkins, R. T., Hanes Cynulleidfa’r Hen Gapel, Llanuwchllyn (Robert Evans a’i Fab, Y Bala, 1937), tt.

[4] Hanes Eglwysi Annibynol Cymru – Cyfrol 1 (Swyddfa Y Tyst Cymreig, Liverpool, 1871)

[5] Thomas, H. E., Cofiant, Pregethau a Nodiadau Byrion y diweddar Barch. W. Thomas, Beaumaris, (J. Morris, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool, 1867), tt. 7

[6] Thomas, H. E., Cofiant, Pregethau a Nodiadau Byrion y diweddar Barch. W. Thomas, Beaumaris, (J. Morris, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool, 1867), tt. 9

[7] Hanes Eglwysi Annibynol Cymru – Cyfrol 1 (Swyddfa Y Tyst Cymreig, Liverpool, 1871), tt. 404

[8] Llawlyfr Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg – Y Bala, 1951 (Gwasg Y Cyfnod, Y Bala, 1951), tt.57

[9] Llawlyfr Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg – Y Bala, 1951 (Gwasg Y Cyfnod, Y Bala, 1951), tt.58

[10] Llawlyfr Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg – Y Bala, 1951 (Gwasg Y Cyfnod, Y Bala, 1951), tt.59

[11] Y Bywgraffiadur Cymreig                                                                                      

[12] Y Bywgraffiadur Cymreig

[13] Cyfrol Goffa Y Parch T. Talwyn Phillips, (Caerdydd, 1920), tt. xxii

[14] Cyfrol Goffa Y Parch T. Talwyn Phillips, (Caerdydd, 1920), tt. xxiv-xxv

[15] Llawlyfr Ymwelwyr Cyfarfodydd Blynyddol Annibynwyr Cymru, 1986, tt.13

[16] Blwyddiadur Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 1940, tud.226

[17] Llawlyfr Ymwelwyr Cyfarfodydd Blynyddol Annibynwyr Cymru, 1986, tt.15