Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch

  • Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch
  • Llanuwchllyn
  • Y Bala
  • Gwynedd
  • LL23 7NA


Email Us

Newyddion YR OFALAETH 

Gallwch hefyd ddilyn yr hyn sy'n digwydd yn yr Ofalaeth drwy ein dilyn ar trydar. Cliciwch ar y linc i gysylltu: 

https://twitter.com/EglwysiLlanRhos 

--------------------------------------------------------------------------------


CROESAWU  GWEINIDOG Y WLADFA

Capeli Cymraeg Y Wladfa. Dyma oedd testun sgwrs a gynhaliwyd yn yr Ysgoldy ar Fedi 19.  Y Parchg. Carlos Ruiz, Y Wladfa oedd y siaradwr ac fe gyflwynodd ei neges yn Sbaeneg.  Roeddem yn hynod ffodus bod Eirian Owen yn rhugl yn yr iaith ac yn medru cyfieithu’n hwylus ar y pryd.  Roedd y ddealltwriaeth amlwg rhwng y ddau yn ychwanegu at y sgwrs.  

Cafwyd hefyd gyflwyniad fideo ar waith Cymdeithas y Beibl gyda’r Capeli Cymraeg yn Y Wladfa gan Y Parchg. Marcos Buzzelli, Cymdeithas y Beibl Ariannin.  Bu i bawb fwynhau eitem gerddorol gan Arfon Griffiths, Nantyllyn ac yna baned a chymdeithasu cyn troi am adref.  Diolch i bawb fynychodd y cyfarfod yn bobl leol, rhai a chysylltiad a’r Wladfa ac aelodau o Gymdeithas Cymru Ariannin. 

Pererindod

Ar fore Sul, Mai 22, cychwynnodd llond bws ohonom ar ein pererindod flynyddol. Eleni, i Lerpwl a Little Sutton oeddem yn mynd. Ar ôl cyrraedd Lerpwl, ymweld yn gyntaf â'r Gadeirlan Anglicanaidd, cyn cychwyn ar daith o amgylch y dref dan arweiniad Mr. Roderick Owen. Diweddwyd y daith yn Doc Lerpwl wrth gofeb y Mimosa.

Yn dilyn canu emyn wrth y gofeb, teithio i Little Sutton, a mwynhau te ac oedfa yng Nghapel Welse y dref cyn cychwyn am Langollen i fwynhau swper blasus yng ngwesty'r Chain Bridge.

Pererindod i'w gofio unwaith eto, a diolch i bawb a gynorthwyodd gyda'r trefnu!

Trip

Bedydd!

Prynhawn Sul, Mai 8, bedyddiwyd Aled Maldwyn, sef ail fab Tomos a Heddys, a brawd bach i Rhys Meirion, yn yr Ysgoldy, Llanuwchllyn. Pleser oedd croesawu'r teulu atom i'n hoedfa. Gweddïwn am fendith Duw arnynt fel teulu.

Bedydd Aled Myrddin

Derbyn Aelodau 

Dydd Sul, Ebrill 24, daeth cynulleidfa luosog i'r Ysgoldy, i Oedfa Gymun pryd yr oedd deuddeg o ieuenctid yr Ofalaeth yn cael eu derbyn yn gyflawn aelodau. Roedd y gwasanaeth dan arweiniad y Gweinidog, gyda Branwen Wiliams a Llyr Edwards yn cyfeilio ar y piano a'r gitar. Yn dilyn yr Oedfa, cafwyd cyfle i gymdeithasu a chroesawu'r bobl ifanc i deulu'r Eglwys dros baned a chacen yn y Neuadd Bentref. Dymuniadau gorau iddynt i gyd, a phob bendith iddynt wrth barhau i dyfu yn y ffydd.

Dosbarth Derbyn

Y Llun:
Y bobl ifanc gyda'r Gweinidog
(chwith i'r dde): Branwen, Aron, Fflur, Pryderi, Mared, Elis, Seren, Llywarch, Gwennan, Sion, Elliw, Gwern a Carwyn